Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am well gefnogaeth gan y GIG ar 么l colli plant
Mae rhiant o Langollen sydd wedi colli pedwar o blant o fewn pedair blynedd wedi galw am well gefnogaeth gan y gwasanaeth iechyd.
Bydd Jessica Evans yn cyflwyno deiseb i Lywodraeth Cymru ar 么l i'w cais i weld arbenigwr ar golli plant gael ei wrthod - rhywbeth sydd ar gael i fenywod yn Lloegr.
Yn 么l Ms Evans mae'r profiad yn un "dirdynnol" i rieni, a gall y broses o chwilio am gefnogaeth fod yn "boenus o hir".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "disgwyl i fyrddau iechyd ddarparu gwasanaethau yn 么l canllawiau NICE er mwyn sicrhau fod gwasanaethau arbenigol ar gael i fenywod mor agos at adref 芒 phosib".
Bu'n rhaid i Ms Evans fynd i Coventry er mwyn derbyn gofal arbenigol gan nad oedd y gwasanaeth yn cael ei gynnig gan ei meddyg teulu yng Nghymru - dim ond y cynnig o fynd at gynecolegydd.
"Nid ydynt [gynecolegwyr] yn arbenigwyr mewn colli plant, ac mae menywod yn derbyn triniaeth anghyson oherwydd hynny," meddai.
'Darlun llwm iawn'
Mae Ms Evans, sydd wedi casglu bron i 2,500 o enwau ar ei deiseb, bellach yn ceisio trefnu cyfarfod gydag Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething.
Yn 么l Ms Evans mae un llwybr posib i fenywod yng ngogledd Cymru - sef atgyfeiriad i Ysbyty Menywod Lerpwl - ond nid oed llwybrau tebyg yn bodoli yn y canolbarth a'r de.
Ychwanegodd bod yr ymateb mae hi wedi'i dderbyn gan fenywod ar hyd a lled y wlad yn creu darlun "llwm" iawn.
"Mae menywod yn teimlo'n rhwystredig ac yn anhapus... mae'r symptomau corfforol yn cael eu trin ond does dim dilyniant mewn gofal. Mae iselder a phoen meddwl yn dilyn," meddai.
'Dilyn canllawiau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod gofal a chefnogaeth galar yn rhan hanfodol o'u gwasanaeth.
"Dylai unrhyw ddynes sy'n teimlo nad yw hi wedi derbyn gofal digonol drafod gyda'i th卯m gofal iechyd, neu wneud cwyn drwy'r Cyngor Iechyd Cymunedol," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Mae'r penderfyniad i atgyfeirio menywod sydd wedi colli plant ar gyfer triniaeth arbenigol yn cael ei wneud fesul achos.
"Mae'r llwybr triniaeth sy'n cael eu dilyn yn unol 芒 chanllawiau NICE a'r Coleg Brenhinol Obstetreg a Gynecoleg".