Cleifion i gael mynediad at gofnodion meddygol drwy ap
- Cyhoeddwyd
Mae system newydd yn cael ei dreialu gan un o fyrddau iechyd Cymru sy'n galluogi cleifion i weld eu cofnod meddygol drwy ap ar y ff么n neu'r cyfrifiadur.
Cafodd Patients Know Best - sy'n ddwyieithog - ei lansio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) ym mis Gorffennaf.
Mae'r dechnoleg eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn 30 ysbyty ar hyd Lloegr, ond ar hyn o bryd yn cael ei dreialu mewn rhai adrannau arbenigol yn unig gan ABMU.
Dywedodd Deborah Isidoro, un o ddefnyddwyr yr ap: "Mae'n rhoi gwell syniad i mi o'r hyn sy'n digwydd - rhoi mwy o b诺er yn fy nwylo i, mewn ffordd."
Be mae'r ap yn ei wneud?
Storio gwybodaeth am apwyntiadau, canlyniadau a chynlluniau gofal;
Mae'n gallu cysylltu 芒 dyfeisiau eraill megis y rhai sy'n monitro lefelau siwgr yn y gwaed;
Lefelau cyfrinachedd a diogelwch uchel er mwyn amddiffyn gwybodaeth sensitif;
Modd i feddygon siarad gyda chleifion drwy alwadau fideo;
Cynnig clipiau fideo i helpu cleifion ddeall eu cyflwr yn well, a sut i ofalu amdano.
Mrs Isidoro, gafodd drawiad ar y galon yn 2016, oedd un o'r cleifion allanol cardioleg cyntaf i ddefnyddio'r ap.
Ar 么l derbyn triniaeth, mae hi'n credu y bydd yr ap yn "hanfodol" wrth geisio sicrhau bod ei chalon yn gwella, a'i bod yn osgoi problemau tebyg yn y dyfodol.
"Mae gen i ganlyniadau profion gwaed ers dros 18 mis, ond dwi ar ddeall y bydd mwy yn cael eu hychwanegu ar-lein," meddai.
"Mae'r ap yn hawdd iawn i'w ddefnyddio."
Cafodd y system ei defnyddio am y tro cyntaf yng Nghymru yn Ysbyty Treforys, Abertawe ond nawr mae'r bwrdd iechyd yn ehangu'r cynllun ar hyd 10 adran ym Mhen-y-bont.
Yn 么l Louise Ebenezer, nyrs arbenigol yn Ysbyty Tywysoges Cymru, bydd yr ap yn eu "galluogi i gyfathrebu yn fwy effeithiol gyda 500 o gleifion gan leihau pwysau gwaith".
"Ar hyn o bryd 'dan ni'n derbyn 30 i 40 o alwadau y dydd gan wahanol gleifion yn holi pryd i gymryd eu tabledi, neu pryd mae'r apwyntiad nesaf," meddai.
"Gyda'r system yma, gall cleifion yrru neges drwy e-bost a gallwn ni wedyn ateb eu cwestiynau ar amseroedd penodol."
'Defnyddio amser yn well'
Dywedodd yr Athro Hamish Lang, rheolwr prosiect ABMU, eu bod nhw'n gwerthuso'r system ar hyn o bryd, ac yn gobeithio ehangu ar hyd adrannau eraill o fewn y bwrdd iechyd.
"Mae'n ein galluogi i ddefnyddio'n hamser yn well, ac i gael sgyrsiau gwahanol gyda chleifion gan eu bod nhw'n fwy gwybodus."
Ychwanegodd: "Mae o hefyd yn golygu nad oes rhaid gwastraffu amser yn gweld cleifion nad oedd angen cael eu gweld yn y lle cyntaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2018
- Cyhoeddwyd17 Awst 2018
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018