O ble ddaeth yr hashnod #MenywodCŵlCymreig?
- Cyhoeddwyd
Mae pawb yn ymwybodol fod merched Cymru yn cŵl, wrth gwrs. Ond yn ystod y Steddfod eleni, cafodd yr hashnod #MenywodCŵlCymreig ei fathu am y tro cyntaf.
Llio Elain Maddocks yw awdur cyfres o negeseuon trydar oedd yn dathlu llwyddiannau rhai o ferched Cymru, mewn meysydd mor amrywiol â llenyddiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, cerddoriaeth a mwy.
Bellach, mae'r hashnod wedi tyfu fel caseg eira, ac mae grŵp Facebook newydd wedi denu dros 4,000 o aelodau mewn wythnos.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs â Llio ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd yn y bythefnos diwethaf:
Beth oedd y cymhelliad dros sefydlu'r hashnod yn y lle cyntaf?
Mi ddechreuodd yr holl beth yn eithaf naturiol. Dwi wedi bod i ffwrdd yn teithio am chwe mis, ond ro'n i'n dilyn yr Eisteddfod ar Twitter, ac wrth fy modd yn gweld cymaint o ferched yn llwyddo mewn gwahanol feysydd.
Nes i benderfynu dechrau edefyn ar Twitter i enwi merched dwi'n eu hedmygu neu sy'n ysbrydoliaeth i ferched eraill. Nes i ofyn i bawb enwebu eu hoff ferched nhw hefyd fel mod i'n gallu dysgu am bobl eraill, ac mi dyfodd yr holl beth o'r fan honno.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd llwythi o ferched yn cynnig enwau, ac roedd o'n ffordd wych i bawb ddarganfod merched hynod o cŵl o bob math o gefndiroedd, a dod i adnabod ein gilydd.
Doedd 'na ddim elfen exclusive iddo o gwbl, mae o'n grŵp agored i bawb, ac fel dywedodd nifer o bobl ar Twitter - os ydych chi'n ferch ac yng Nghymru neu o Gymru, 'da chi'n cŵl.
Beth oeddet ti'n ei obeithio fyddai'n dod ohono fo?
I fod yn hollol onest, doedd gen i ddim syniad y byddai'n datblygu i fod yn rwydwaith mor gryf.
Nes i ddechrau'r edefyn Twitter gan enwi Catrin Dafydd a Manon Steffan Ros yn dilyn eu llwyddiant Eisteddfodol, yna mi es i gysgu a pan ddeffrais y bore wedyn ges i ddipyn o sioc o weld cymaint o bobl oedd wedi ymuno â'r edefyn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd o'n gymaint o bleser darganfod a sgwrsio efo merched eraill na fyddai wedi cyfarfod heb yr hashnod.
Mae'n amlwg o'r ymateb bod angen rhywbeth fel hyn arnom ni yng Nghymru.
Beth yw bwriad y grŵp Facebook, Menywod Cŵl Cymreig?
Cafodd y ei ddechrau gan Melangell Dolma ar ôl sylwi bod angen gofod i ni allu trafod yn haws, a phostio am ddigwyddiadau a phrosiectau er mwyn gallu cefnogi ein gilydd.
Mae gwahoddiad agored i bawb ymuno â'r grŵp Facebook, felly plis peidiwch bod yn swil!
Mae o'n ofod saff a chefnogol, a does dim barnu yno. 'Da ni jest eisiau helpu a chefnogi ein gilydd.
Mae 'na lot o bobl yn rhannu tudalennau eu busnesau neu'n gofyn am gyngor, ac mae lot wedi sôn am ddechrau cynllun mentora drwy'r grŵp, ac mi fyddwn i wrth fy modd yn helpu datblygu cynllun o'r fath.
Dwi hefyd wedi sefydlu cylchlythyr misol fydd yn dechrau mis Medi, sy'n mynd i roi proffil o leia' un merch pob mis, yn ogystal â hysbysebu digwyddiadau, arddangosfeydd, perfformiadau - unrhywbeth sy'n cael ei greu neu ei drefnu gan ferched yng Nghymru a thu hwnt.
Pam fod angen rhywbeth o'r fath?
Er bod cymaint o ferched llwyddianus a chryf yng Nghymru, doedd dim un gofod i ni gyd allu ei rannu a'i ddefnyddio i drafod a chefnogi ein gilydd.
Mae nifer o feysydd proffesiynol yn dal i gyflogi mwy o ddynion mewn swyddi arwain neu uwch-reolwyr ac felly mae'n anodd weithiau i ferched ifanc ddod o hyd i fenyw broffesiynol y maen nhw'n eu parchu.
Drwy gysylltu â'n gilydd mewn rhwydwaith cryf, gobeithio y gallwn ni ysbrydoli ein gilydd, dysgu o'n gilydd, a thyfu gyda'n gilydd.
Hefyd o ddiddordeb: