Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Beirniadu'r llywodraeth am oedi i gytundebau band eang
Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu diffyg eglurhad am oedi wrth wobrwyo cytundebau er mwyn cysylltu bron i 100,000 o dai i fand eang cyflym.
Roedd disgwyl i Julie James, gweinidog yng nghabinet Llywodraeth Cymru, gyhoeddi'r enillwyr mis Gorffennaf cyn i "faterion annisgwyl" godi yn y broses "gymhleth".
Dywedodd Ms James na allai hi fod yn fwy penodol tan fod y broses tendro ar gyfer y prosiect 拢80m wedi ei orffen.
Yn 么l Russell George AC mae'r diffyg tryloywder yn "annerbyniol".
Yn 么l ym mis Ionawr, cyhoeddodd Ms James fod cwmn茂au yn cael eu gwahodd i geisio am gytundebau a helpu sicrhau bod band eang cyflym iawn ar gael i ganran uwch o bobl Cymru, gyda phwyslais ar ardaloedd gwledig a busnesau.
Y nod oedd targedu 88,000 o dai lle dyw cynllun o'r fath ddim wedi eu cyrraedd yn y gorffennol.
Mewn llythyr at Mr George ar 31 Gorffennaf, dywedodd Ms James: "Mae gwaith caffael ar gyfer y prosiect wedi bod yn gymhleth, gyda nifer o faterion annisgwyl yn codi yn ystod y broses.
"Mae'r swyddogion yn parhau i weithio, gyda'r gobaith o wobrwyo'r cytundebau mor fuan 芒 phosib.
"Rydw i'n bwriadu rhoi datganiad dros yr wythnosau nesaf i ddiweddaru aelodau ar gynnydd a chadarnhau'r amserlen."
Wrth ymateb i alwadau gan Mr George am fwy o fanylion, dywedodd nad oedd modd rhannu'r manylion yngl欧n 芒'r "materion cymhleth" sydd wedi codi, oherwydd cyfrinachedd masnachol.
Dywedodd Mr George: "Mae'r diffyg tryloywder ar ran Llywodraeth Cymru yn gwbl annerbyniol pan mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn dal i aros am fand eang cyflym y mae eu cymdogion yn y trefi eisoes yn ei fwynhau.
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid gofyn y cwestiwn pam na wnaeth Llywodraeth Cymru sicrhau fod y newid o ran 1 y cynllun i ran 2 yn un llyfn."
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Tra bod Superfast Cymru wedi llwyddo i drawsnewid tirwedd ddigidol Cymru, rydyn ni'n deall bod angen gwneud mwy i gyrraedd y tai hynny sydd dal heb fynediad, ac rydym yn gweithio at gyflawni hynny nawr.
"Mae'n hanfodol ein bod ni'n cymryd ein hamser ar hyn fel bod manteision llawn y cynllun yn cael eu gwireddu."