大象传媒

Ap锚l yn Nyffryn Clwyd am eirin Dinbych wedi tyfiant gwael

  • Cyhoeddwyd
Eirin

Mae cynhyrchwyr bwyd yn Nyffryn Clwyd yn gofyn am help y cyhoedd i ddod o hyd i fwy o eirin Dinbych - yr unig fath sy'n gynhenid i Gymru.

Yn yr hydref, bydd g诺yl yn cael ei chynnal am y degfed tro i ddathlu'r eirin ond mae yna bryder yn Ninbych bod dim digon wedi tyfu eleni.

Tywydd oer yn ystod y gwanwyn sy'n cael ei feio am y prinder, ac mae trefnwyr yr 诺yl yn gofyn i bobl leol gysylltu 芒 nhw os oes eirin dros ben ar gael.

Dywedodd Nia Williams o gr诺p Eirin Dinbych bod sychder yn ystod y ddeufis diwethaf "heb helpu'r sefyllfa chwaith".

Statws arbennig?

Mae'r eirinen yn tyfu yn Nyffryn Clwyd ers canrifoedd, ac mae'n nes谩u at dderbyn statws Ewropeaidd arbennig.

Gobaith gr诺p Eirin Dinbych yw y daw'r dogfennau i gadarnhau'r statws arbennig cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd y flwyddyn nesa'.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Nia Williams o gr诺p Eirin Dinbych mae tywydd oer y gwanwyn a sychder yr haf wedi cyfrannu ar brinder

Bydd G诺yl Gwledd Eirin Dinbych yn cael ei chynnal am y degfed tro ym mis Hydref.

Gobaith trefnwyr yr 诺yl yw y gall bobl leol sydd ag eirin dros ben sicrhau bod digon i'w rhannu rhwng yr holl gynhyrchwyr bwyd.

"Os oes gan unrhyw un yn Nyffryn Clwyd goeden eirin Dinbych a bod dal ffrwyth gyda nhw, bod y ffrwyth yn mynd i ofer oni bai bod ni'n dod i'w pigo nhw," meddai Mrs Williams.

"Nawn ni ddim lledaenu'r neges ble mae'r goeden ond mi fase ni'n ddiolchgar iawn petawn nhw'n cysylltu 芒 ni."