大象传媒

Arweinwyr byd yn diolch i ddisgyblion Blaenau Ffestiniog

  • Cyhoeddwyd
Arweinwyr byd a llechi FfestniogFfynhonnell y llun, G诺yl Lechi Bro
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Tywysog Albert o Monaco, Tuilaepa Malielegaoi, Prif Weinidog Samoa, a Justin Trudeau, Prif Weinidog Canada wedi anfon negeseuon at Ysgol y Moelwyn

Mae disgyblion o Flaenau Ffestiniog wedi darganfod ffordd ddiddorol o ddysgu mwy am y byd - ac addysgu eraill am dreftadaeth arbennig eu hardal nhw ar yr un pryd.

Cafodd darnau o lechi gyda logo G诺yl Lechi Bro Ffestiniog eu hanfon i dros 200 o wledydd gan ddisgyblion Ysgol y Moelwyn.

Mae Prif Weinidog Canada, Justin Trudeau, y Tywysog Albert o Monaco, ac Arlywydd De Korea, Moon Jae-in, ymysg y rhai sydd wedi anfon llythyr yn 么l i'r ysgol.

Mae'r prosiect yn rhan o ymgyrch Blaenau Ffestiniog i allu rhoi statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ar chwareli'r gogledd.

Yn siarad gyda'r Post Cyntaf ar 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd Gareth Davies, athro Daearyddiaeth sy'n cydlynu'r prosiect: "Mae 'na lawer o gyffro ym Mlaenau Ffestiniog am y prosiect ac mae 'na edrych ymlaen am dderbyn negeseuon.

"Er i fi briodi ddydd Mercher diwethaf, roeddwn yn dal i aros yn eiddgar at lythyr neu e-bost gyda'r atebion nesaf."

Ffynhonnell y llun, G诺yl Lechi Bro
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgyblion Ysgol y Moelwyn yn cadw cofnod o ba wledydd sydd wedi derbyn eu hanrhegion a pha rai sydd wedi ymateb

Mae 15 arweinydd wedi ymateb hyd yma, gan gynnwys arlywydd Brasil.

"Mae rhai wedi anfon lluniau ohonynt gyda'r llechi, tra bod eraill wedi anfon llythyron personol i ddiolch," meddai Mr Davies.

Mae gwleidyddion y DU hefyd wedi derbyn llechen fel anrheg.

Fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ateb gan ganmol mentergarwch y disgyblion.

Ffynhonnell y llun, G诺yl Lechi Bro
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Anfonodd Carwyn Jones lun a llythyr yn diolch am ei lechen, gan nodi mai llechi o'r ardal cafodd eu defnyddio i adeiladu'r Senedd

Derbyniodd yr ysgol nodyn gan Downing Street yn cydnabod bod y Prif Weinidog Theresa May wedi derbyn ei hanrheg hithau.

Anfonodd Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, nodyn ynghyd 芒 llun ohono gyda'r llechen.

Fe gostiodd oddeutu 拢1,500 i anfon y llechi i dros 200 o wledydd.

Gwrthododd y disgyblion anfon darnau i Syria, Somalia a Yemen oherwydd y brwydro sydd yno.

Bydd Mr Davies ei hun yn ehangu ei orwelion yntau ddydd Sul, pan fydd yn hedfan i Foscow i ddechrau gyrfa newydd fel athro yno.

"Mi fydda' i'n mynd 芒 darn o lechen gyda fi - ni wedi anfon un i'r Arlywydd Putin. Dwi'n si诺r wneith o ein hateb ni!"