Arian i brentisiaid heddlu yn dilyn ffrae am ddatganoli
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i luoedd heddlu yng Nghymru gael cyllid ychwanegol ar gyfer hyfforddiant yn dilyn ffrae am arian sydd wedi'i golli oherwydd datganoli.
Daw hynny wedi i bwyllgor Cynulliad rybuddio bod y lluoedd yn talu 拢2m y flwyddyn tuag at ardoll prentisiaeth Llywodraeth y DU - ond yn cael dim byd yn 么l.
Dywedodd ACau fod yr arian yn "disgyn drwy'r bwlch datganoli" gan fod hyfforddi wedi'i ddatganoli, ond bod plismona ddim.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y Swyddfa Gartref wedi addo cyllid i brentisiaid heddlu yng Nghymru o 2019.
'Dim cyllid sylweddol'
Mae'r ardoll prentisiaid, gafodd ei gyflwyno ym mis Ebrill 2017, yn cael ei dalu gan bob cyflogwr yn y DU sydd yn talu gwerth dros 拢3m o gyflogau - gan gynnwys lluoedd heddlu a chynghorau.
Mae'r arian yna wedyn yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi gweithwyr sydd heb radd.
Ond mae Ffederasiwn yr Heddlu wedi rhybuddio y gallai Cymru fod yn colli recriwtiaid posib am nad oedden nhw'n cael yr un arian a Lloegr i'w hyfforddi.
Mae adroddiad gan bwyllgor economi, seilwaith a sgiliau'r Cynulliad wedi dweud bod lluoedd yn Lloegr yn gallu cael 拢24,000 ar gyfer pob swyddog maen nhw'n hyfforddi dros gyfnod o dair blynedd.
Ond gan fod prentisiaethau wedi eu datganoli, mae'r arian ar gyfer Cymru'n cael ei anfon yn syth i Gaerdydd ac mae gweinidogion yn gallu ei wario fel y mynnant.
Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw'r ardoll "wedi darparu cyllid sylweddol ychwanegol i Gymru", gan ddweud bod Llywodraeth y DU hefyd wedi torri cynlluniau prentisiaethau eraill.
"Ers i ymchwiliad y pwyllgor gael ei gynnal, mae'r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y byddan nhw'n darparu cyllid ar gyfer lluoedd heddlu Cymru er mwyn eu caniat谩u nhw i gomisiynu prentisiaethau o 2019 ymlaen," meddai llefarydd.
"Rydym hefyd wedi darparu 拢400,000 i helpu lluoedd heddlu i baratoi ar gyfer eu hanghenion hyfforddi yn y dyfodol."
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2018
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2018