大象传媒

Cymraes ar y ffordd i Academi Ballet Bolshoi

  • Cyhoeddwyd
Ffion BallardFfynhonnell y llun, Ffion Ballard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Uchelgais Ffion Ballard ers ei bod yn 11 oed oedd mynd i astudio ballet yn Rwsia

Mae merch 芒 gwreiddiau yn Sir Gaerfyrddin ar ei ffordd i Moscow i astudio gyda chwmni ballet fyd-enwog.

Bydd Ffion Ballard yn teithio i Rwsia yn yr hydref er mwyn treulio blwyddyn yn astudio yn Academi Ballet y Bolshoi.

Yn 么l ei mam, mae Ffion yn ferch "anghyffredin" sydd wedi ymroi'n llwyr i'w dawnsio.

Mae'r teulu bellach yn ceisio casglu arian er mwyn cefnogi Ffion gyda'i hastudiaethau.

'Edrych ymlaen yn arw'

Er ei bod hi bellach yn byw yn Efrog Newydd, cafodd Ffion peth o'i haddysg gynradd yn Sir Gaerfyrddin a Bro Morgannwg, ac mae ei mam o Gymru'n wreiddiol.

Ar 么l treulio'r haf ar gwrs ballet yn America, cafodd wybod ei bod wedi cael gwahoddiad i astudio yn y Bolshoi yn Rwsia.

Dywedodd ei mam, Sione Owen, bod Ffion yn "edrych ymlaen yn arw" bellach at ddechrau ar ei hastudiaethau a'i bod wedi bod yn ferch "aeddfed ac anghyffredin" ers ei bod hi'n ddim o beth.

Ffynhonnell y llun, Ffion Ballard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Ffion Ballard rhywfaint o'i addysg gynradd yng Nghymru, ac mae ei mam yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin

Mae Ffion wedi bod yn cael gwersi dawnsio ers ei bod yn saith oed, a llynedd penderfynodd nad oedd yn symud ymlaen i'r ysgol uwchradd er mwyn gallu canolbwyntio ar ei chrefft.

Roedd hi'n treulio pob dydd yn ymarfer, gan gwblhau ei gwaith ysgol ar-lein ac ar ei thaith awr ar y tr锚n i'r stiwdio.

Ychwanegodd ei mam: "Mae hi'n aeddfed iawn a moyn hyn mwy na dim yn y byd, a'n job i fel mam yw ei chefnogi beth bynnag mae hi moyn gwneud.

"Mae'r cyfle yma'n rili bwysig iddi, a go for it ddyweda i!"

Dysgu Rwsieg

Yn 11 oed, cyhoeddodd Ffion wrth ei mam ei bod am fynd i Rwsia i astudio a dweud bod felly'n rhaid iddi gael tiwtor er mwyn dysgu Rwsieg.

Bydd y gwersi ym Moscow i gyd drwy gyfrwng y Rwsieg, felly bydd disgwyl i Ffion astudio'r iaith ymhellach am ddwy awr bob dydd - a hynny ynghyd ag wyth awr o wersi ballet a'i hastudiaethau academaidd.

Er nad yw hi'n siarad Cymraeg yn rhugl, mae ei mam, a fu'n byw yng Nghymru tan ei bod yn 19 oed, wedi siarad Cymraeg gyda hi.

Wedi'r flwyddyn hon, bydd Ffion yn gorfod profi ei sgiliau ballet a'i sgiliau ieithyddol cyn cael y cyfle i barhau i astudio yno am dair blynedd arall.