大象传媒

Ymgeiswyr yn rhanedig am ail bleidlais ar Brexit

  • Cyhoeddwyd
MD
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mark Drakeford wedi bod yn AC Gorllewin Caerdydd ers 2011

Nid yw'r prif ymgeisydd yn y gystadleuaeth ar gyfer arweinyddiaeth Llafur yng Nghymru yn teimlo o dan bwysau i gefnogi refferendwm newydd ar Brexit, er bod y syniad yn cael ei gefnogi gan yr holl ymgeiswyr eraill yn y ras.

Dywedodd Mark Drakeford fod angen penderfyniad terfynol ar unrhyw gytundeb Brexit y mae'r prif weinidog Theresa May yn cyrraedd gyda'r Undeb Ewropeaidd ond ei fod am gadw'r holl "bosibiliadau ar y bwrdd".

Dywedodd y gallai penderfyniad terfynol gymryd ffurf refferendwm, etholiad cyffredinol neu "bleidlais o bwys" yn Senedd San Steffan.

Mae Vaughan Gething, Eluned Morgan, Huw Irranca-Davies ac Alun Davies i gyd yn cefnogi cynnal refferendwm ar delerau terfynol Brexit.

Er bod pump o ACau Llafur wedi ymuno 芒'r ras i gymryd yr awenau oddi wrth Carwyn Jones ar 么l iddo gamu lawr fel Prif Weinidog Cymru, dim ond yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford a'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething sydd 芒 digon o gefnogaeth oddi wrth eu cyd-Aelodau Cynulliad Llafur i gyrraedd y papur pleidleisio.

Pedwar o blaid

Mewn erthygl ddiweddar ar gyfer gwefan The Independent, dywedodd Mr Gething ei fod yn cefnogi pleidlais gyhoeddus ar y fargen Brexit terfynol.

"Nid oherwydd fy mod yn credu mai dyma'r opsiwn mwyaf poblogaidd, ond oherwydd fy mod i'n credu bod e'n iawn fod rhywbeth mor bwysig 芒 hwn, a fydd yn effeithio ar genedlaethau am genedlaethau, yn y pen draw yn benderfyniad i'r cyhoedd." meddai.

Mae AC Ogwr Huw Irranca-Davies wedi galw ar y prif weinidog nesaf dros Gymru i alw pleidlais "bargen neu ddim bargen" ar y cytundeb Brexit terfynol tra bod Alun Davies, AC Blaenau Gwent, wedi ymgyrchu ochr yn ochr ag ymgyrch y People's Vote.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Alun Davies 馃彺鬆仹鬆仮鬆伔鬆伂鬆伋鬆伩

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Alun Davies 馃彺鬆仹鬆仮鬆伔鬆伂鬆伋鬆伩

Dywedodd Eluned Morgan y byddai'n "gwneud synnwyr" i ofyn i'r cyhoedd unwaith eto a ydynt yn "fodlon" gyda'u penderfyniad yn y refferendwm nol yn 2016 lle pleidleisiodd mwyafrif y pleidleiswyr yng Nghymru a ledled y DU dros Brexit.

Mewn ymateb i'r cwestiwn a fyddai'n annemocrataidd i gynnal refferendwm arall dywedodd yr AC dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

"Yr hyn sy'n annemocrataidd yw dweud wrth bobl Cymru y byddent yn derbyn pob math o 'goodies' os newn nhw gadael yr UE ond nid dyna'r hyn sydd wedi digwydd."

'Pwysau cynyddol'

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dweud yn gyson nad yw am ail-redeg ymgyrch y refferendwm a dylai Cymru a'r DU barchu ewyllys y bleidlais gyhoeddus.

Ond mae Ms Morgan yn credu y bydd "pwysau cynyddol" ar lywodraeth Lafur Cymru i symud tuag at gefnogi refferendwm newydd.

Ychwanegodd: "Rwy'n credu y byddwn, mewn pryd, yn eu gweld yn symud i'r safbwynt lle ry'n ni'n rhoi'r bleidlais yn 么l i'r bobl.

"Fe addawyd un peth iddynt. Mae'r llywodraeth hon, llywodraeth Dor茂aidd y DU wedi methu a chyflawni. Mae angen inni ofyn iddynt eto."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r pedwar ymgeisydd arall (ch.i dde) Vaughan Gething, Alun Davies, Huw Irranca-Davies ac Eluned Morgan o blaid ail bleidlais ar Brexit

'Darlun yn newid yn gyflym'

Mae'r ceffyl blaen yn ras arweinyddiaeth Llafur Cymru Mark Drakeford yn cefnogi safbwynt polisi'r Blaid Lafur Brydeinig o beidio 芒 galw am refferendwm newydd ond yn hytrach "gadael yr holl opsiynau ar y bwrdd".

Dywedodd Mr Drakeford: "Mae penderfyniad pwysig iawn yn dod yn yr hydref pan ddaw'r prif weinidog yn 么l gyda pha bynnag fargen y mae hi wedi taro, a bydd angen penderfynu a yw'r cytundeb yna'n dderbyniol ai peidio.

"Gallai fod trwy refferendwm, gallai fod trwy etholiad cyffredinol, gallai fod trwy bleidlais o bwys yn y Senedd.

"Rwy'n credu ei bod hi'n rhy gynnar i ddiffinio'r broses. Mae'r darlun yn newid mor gyflym. Nid ydym yn gwybod beth fydd cynnwys y fargen."

Pan gafodd ei holi yngl欧n 芒 bod dan bwysau i newid ei safbwynt o ystyried bod yr ymgeiswyr eraill yn galw am refferendwm arall, dywedodd yr AC dros Orllewin Caerdydd: "Na, dydw i ddim achos dydw i ddim yn cefnogi'r farn honno.

"Rwy'n credu ei fod yn synhwyrol cadw'r holl bosibiliadau hynny ar y bwrdd a dim ond penderfynu pa un sy'n gweithio orau pan fyddwn yn ymhellach yn y broses ac rydym yn gwybod mwy amdano."