大象传媒

Dim t芒l i barcio yn ysbytai'r GIG yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Glangwili HospitalFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ysbyty Glangwili, sydd dan ofal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yw un o'r ddau ysbyty olaf i fod yn codi t芒l am barcio

O fis Medi ymlaen, bydd modd parcio am ddim ymhob un o feysydd parcio ysbytai'r GIG yng Nghymru - degawd cyfan wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi parcio di-d芒l yn bolisi.

Ysbytai Glangwili a Thywysog Philip yn Sir Gaerfyrddin yw'r olaf i roi'r gorau i godi t芒l am barcio.

Bydd modd parcio yno am ddim o ddydd Sadwrn ymlaen, gan fod cytundeb Bwrdd Iechyd Hywel Dda gyda chwmni parcio preifat wedi dod i ben.

Yn 么l y bwrdd iechyd, y bwriad bellach yw "sicrhau tegwch i bawb".

Ym mis Mawrth 2008, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Edwina Hart, eu bod yn bwriadu cyflwyno parcio di-d芒l mewn ysbytai'r mis canlynol.

Roedd yna ddisgwyliad y byddai byrddau iechyd a oedd wedi ymrwymo i gytundebau cyfreithiol gyda chwmn茂au preifat yn "gostwng eu prisiau er mwyn y cleifion, staff a'r ymwelwyr".

Blwyddyn cyn y cyhoeddiad hwnnw, casglodd ysbytai Cymru gwerth bron i 拢5.4m o docynnau parcio.

拢10 y diwrnod

Ym mis Mehefin, cafodd parcio di-d芒l ei gyflwyno yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi i'r cytundeb gyda chwmni preifat ddod i ben.

Bu'n bosib talu hyd at 拢10 y dydd am barcio ar y safle cyn hynny,

Roedd talu am barcio yno wedi bod yn fater dadleuol i staff yn ogystal 芒 chleifion ac ymwelwyr, gyda 75 aelod o staff yn colli achos llys yn erbyn Indigo, a oedd wedi eu gorfodi i dalu gwerth miloedd o bunnoedd o docynnau parcio.

Wedi hynny, dim ond dau ysbyty yn Sir Gaerfyrddin, sydd wedi eu rheoli gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, oedd yn codi t芒l am barcio, am fod yr ysbytai wedi eu clymu mewn cytundeb gyda chwmni preifat.

Daeth y cytundeb hwnnw i ben ddydd Sadwrn, ac fe benderfynodd y bwrdd iechyd gynnig llefydd parcio am ddim, gan addo bwrw ati i wella'r meysydd parcio ar gyfer staff, cleifion ac ymwelwyr.

'Problemau' parcio

Roedd cyfarwyddwr gweithrediadau Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cydnabod bod "problemau" parcio ar y ddau safle.

Er na fydd t芒l am barcio, bydd pobl sy'n ymweld ag ysbytai Glangwili a Thywysog Philip yn gorfod dilysu eu tocynnau ar y safle.

Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi dweud eu bod yn ystyried defnyddio technoleg sy'n adnabod rhif cerbyd er mwyn monitro defnydd pobl o'r maes parcio.

Bydd y camer芒u yn cael eu defnyddio i gadw llygad ac i gasglu data yn unig.

Yn 么l Joe Teape, cyfarwyddwr gweithredoedd a dirprwy prif weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Rydym yn trafod gyda staff a'r cyhoedd i sicrhau tegwch i bawb, gan gadw meysydd parcio ar gyfer cleifion ac ymwelwyr a gwella'r lle sydd ar gael i gerbydau argyfwng."