大象传媒

Teuluoedd 'ddim yn gwybod' am ddymuniadau rhoi organau

  • Cyhoeddwyd
llawdriniaeth trawsblannu organ

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i siarad ar Wythnos Rhoi Organau wrth i ffigyrau ddangos nad yw teuluoedd yn aml yn gwybod am ddymuniadau eu hanwyliaid.

Gallai anwybodaeth o'r fath, medd llefarydd, rwystro trawsblaniadau sy'n achub bywyd.

I lansio ail gyfnod yr ymgyrch mae tair hysbyseb wedi eu paratoi, sy'n dangos unigolion yn diystyru dymuniad perthynas agos i roi organau am na fu trafodaeth rhyngddyn nhw ynghylch y ffaith ei fod wedi penderfynu bod ar y gofrestr rhoddwyr organau.

Mae arolygon yn dangos bod tua 80% o bobl yn y DU yn cefnogi rhoi organau ond dim ond 33% o bobl sydd wedi dweud wrth eu teulu eu bod eisiau rhoi organau.

Mae mam Conner Marshall o'r Barri, dyn 18 oed a fu farw yn dilyn ymosodiad mewn parc carafanau ym Mhorthcawl ym mis Mawrth 2015, yn dweud ei bod yn falch bod hi wedi siarad 芒'i mab am roi organau.

Disgrifiad,

Dywedodd Nadine Marshall bod ei mab "moyn cael ei ystyried fel rhywun oedd yn gallu rhoi organau"

Dywedodd Nadine Marshall: "Mae Conner wedi rhoi rhodd anhygoel, ac rydyn ni wedi gallu gwireddu ei ddymuniadau a chefnogi ei benderfyniad i roi organau.

"Er mai bachgen ifanc oedd Conner, roedd wedi gwneud y penderfyniad i roi ei organau ac yn ffodus, roedden ni wedi siarad am hyn.

"Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn ein bod yn gwrando ar bobl ifanc ac yn rhoi'r cyfle iddyn nhw siarad am roi organau yn yr ysgol a'r coleg. Ymhen ychydig amser, byddan nhw'n oedolion.

"Mae hefyd yn bwysig i bobl siarad 芒'u hanwyliaid amdano fel bod eu teuluoedd yn ymwybodol o'u penderfyniad pe byddai'r sefyllfa anodd honno'n codi.

"Pwy a 诺yr beth fyddai ein penderfyniad pe na fyddai Conner ar y gofrestr a phe na fyddem yn ymwybodol o'i deimladau cryf i roi ei organau."

Anwybyddu penderfyniad

Dywed Llywodraeth Cymru fod tystiolaeth yn dangos pan nad yw teulu'n gwybod beth yw penderfyniad rhywun agos, maent yn llawer mwy tebygol o wrthod caniat谩u rhoi organau.

Yn 2017/18, roedd data a gyhoeddwyd gan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn dangos bod 22 o achosion yng Nghymru lle'r oedd teuluoedd naill ai wedi mynd yn groes i benderfyniadau eu perthnasau i roi organau, neu wedi gwrthod cefnogi'r cydsyniad tybiedig.

O ystyried bod 3.2 o organau ar gyfartaledd wedi'u tynnu fesul rhoddwr yng Nghymru yn 2017/18, gallai hynny fod wedi golygu cynifer 芒 70 o drawsblaniadau ychwanegol, meddai'r llywodraeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhaid cynyddu'r gyfradd cydsynio i roi organau, medd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Rydyn ni'n awyddus i annog pawb yng Nghymru i siarad 芒'u hanwyliaid am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau.

"Rydyn ni wedi gweld gwelliannau mawr yn ein cyfraddau cydsynio, sydd wedi cynyddu o 59% yn 2015/16 i 70% yn 2017/18.

"Fodd bynnag, gan fod pobl yn marw o hyd wrth aros am drawsblaniad, rhaid inni weithio'n galetach byth i gynyddu'r gyfradd cydsynio ymhellach er mwyn gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sydd ar y rhestrau aros am drawsblaniad.

"Os ydych chi'n cefnogi rhoi organau, cofiwch siarad 芒'ch teulu a'ch ffrindiau amdano."

Y dewisiadau

Wrth ystyried y mater o roi organau mae yna dri dewis:

  • Optio i mewn - bydd hyn yn dangos eich bod chi wedi penderfynu bod yn rhoddwr organau;

  • Gwneud dim - bydd hyn yn dangos nad ydych chi'n gwrthwynebu bod yn rhoddwr organau a thybir eich bod yn cydsynio;

  • Optio allan - bydd hyn yn dangos eich bod chi wedi penderfynu peidio 芒 bod yn rhoddwr organau.

Mae modd cofrestru penderfyniad unrhyw amser drwy ffonio 0300 123 23 23 (gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG fydd yn ateb y galwadau hyn), mynd i rhoiorganau.org neu drwy ddweud wrth deulu a ffrindiau.