大象传媒

Ateb y Galw: Yr actores Sera Cracroft

  • Cyhoeddwyd
Sera Cracroft

Yr actores Sera Cracroft sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Beth Robert yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dad yn gwthio fi mewn pushchair o dan bont newydd yr A55 ac yn canu I'm looking over a fourleaf clover. Roedd hi tua 1968.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Donny Osmond, a Terry Gerrard mewn bywyd go iawn!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tybed oedd Terry Gerrard yn edrych fel Donny Osmond...?!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Peidio datgan fy siom pan oedd pobl yn sarhaus am yr iaith Gymraeg. Ma' pethe 'di newid erbyn hyn.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Wythnos diwethaf - poeni am iechyd f'annwyliaid

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi ar Facebook gormod!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llangefni. Atgofion melys o dreulio pob gwylie haf yno a'r rhyddid i gymysgu efo pobl ifanc mewn tref lle oedd y mwyafrif llethol yn siarad Cymraeg.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ma' 'na ormod ohonynt ond noson efo nheulu a ffrindie. Canu caneuon Cymreig a Gwyddelig tan orie m芒n y bore!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pobol y Cwm: Priododd Denzil ac Eileen yn 1991, ond yn anffodus, chwalodd y briodas

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Cariadus, gwleidyddol, angerddol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

The Color Purple.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Tony Benn, oherwydd ei egwyddorion diffuant. O'dd o hefyd yn caru yfed te, yr un fath 芒 fi.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Nes i ennill y naid hir ym mabolgampau'r sir pan o'n i'n 11!

O Archif Ateb y Galw:

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mwynhau cwmni fy nheulu a ffrindiau a thrio cyfleu i fy mhlant pa mor falch ydw i ohonynt a faint dwi'n eu caru.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Calon L芒n. Dwi ddim yn cofio adeg pan doeddwn i ddim yn 'nabod y g芒n. Ma' hi'n atgoffa fi o Nain a dwi wrth fy modd yn ei chlywed hi yn cael ei chanu mewn ffyrdd traddodiadol neu fodern. Ma'r geirie a'r d么n yn syml ond effeithiol.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Prawns mewn garlleg a tsili. Fish,chips a mushy peas. Treiffl diwrnod 'Dolig.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Gweinidog ar gyfer iechyd mewn llywodraeth Cymru annibynnol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jonathan a Sera yn cael dipyn o hwyl wrth actio Colin ac Eileen ar Pobol y Cwm

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Jonathan Nefydd