Dim lle yng Nghwpan y Byd i d卯m p锚l-droed merched Cymru
- Cyhoeddwyd
Ni fydd t卯m p锚l-droed merched Cymru yng Nghwpan y Byd 2019 ar 么l i ganlyniadau eraill fynd yn eu herbyn ddydd Mawrth.
Roedd y t卯m eisoes wedi colli o 3-0 yn erbyn Lloegr nos Wener, pan fyddai buddugoliaeth wedi sicrhau eu bod yn ennill y grwp ac yn cyrraedd y twrnamaint yn Ffrainc.
Roedd hynny'n golygu bod Cymru angen i'r Eidal a'r Weriniaeth Tsiec ennill eu gemau ddydd Mawrth er mwyn cael lle yn y gemau ail gyfle fel un o'r timau gorau i orffen yn ail yn eu grwpiau.
Ond colli wnaeth Yr Eidal o 2-1 yn erbyn Gwlad Belg, tra bod Gwlad yr Ia wedi cael g锚m gyfartal o 1-1 gyda'r Weriniaeth Tsiec.
Mae'r canlyniadau'n golygu bod Cymru yn chweched o ran y timau orffennodd yn ail, gyda'r pedwar uchaf yn unig yn cael lle yn y gemau ail gyfle.
Fe lwyddon nhw i ennill pump o'u wyth g锚m yn y gr诺p rhagbrofol, yn ogystal 芒 sicrhau gemau cyfartal oddi cartref yn erbyn Lloegr a Rwsia.
Yn dilyn diwedd eu hymgyrch, dywedodd y rheolwr Jayne Ludlow ei bod yn gobeithio gweld y t卯m merched cenedlaethol yn mynd yn gyfan gwbl broffesiynol o fewn degawd, ac y byddai hynny'n help o ran ceisio cyrraedd cystadlaethau rhyngwladol yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2018