大象传媒

Cymeradwyo caniat芒d cynllunio i ffordd osgoi yn Llanbedr

  • Cyhoeddwyd
Llanbedr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r bont gul sydd yng nghanol y pentref yn peri problemau i gerbydau mawr

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi rhoi caniat芒d cynllunio i greu ffordd osgoi yn Llanbedr, ger Harlech.

Roedd swyddogion cynllunio'r Parc a nifer o bobl leol wedi argymell y dylid cymeradwyo'r cynlluniau cyn i'r awdurdod drafod y mater mewn pwyllgor fore Mercher.

Fel arfer mae tua 3,000 o gerbydau yn teithio trwy'r pentref yn ddyddiol, gyda'r nifer yn cynyddu i 5,000 yn ystod mis Awst wrth i dwristiaid ymweld 芒'r ardal.

Er bod gan rai bryderon am y cynllun mae'r cyngor cymuned yn gobeithio y bydd y ffordd osgoi yn denu mwy i'r ardal.

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2019, a chymryd tua 12 mis i'w gwblhau.