大象传媒

Eogiaid ifanc yn dychwelyd i afon wedi 40 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Young salmonFfynhonnell y llun, Wye and Usk Foundation

Mae eogiaid ifanc wedi cael eu cofnodi mewn rhan o Afon Elan ym Mhowys am y tro cyntaf ers degawdau.

Cafodd eogiaid a brithyll brown o dan flwydd oed eu gweld yn yr afon ychydig islaw Pentre-elan.

Mae'n dilyn cynllun tair blynedd i adfer ecoleg ar ddarn 4.3 milltir o'r afon islaw argaeau Cwm Elan.

Sefydliad Y Wysg a'r Gwy, D诺r Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am y gwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran y cynllun: "Mae gweld eogiaid ifanc yno yn arwydd ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir.

"Er hynny dyw'r gwaith ddim wedi ei orffen. Rhaid i ni barhau i ychwanegu graean er mwyn cwblhau beth sydd eisoes wedi bod yn gynllun llwyddiannus iawn, a pharhau i fonitro'r canlyniadau."

Cafodd argaeau Elan eu hadeiladu yn 1905, ac maen nhw wedi atal cyflenwad y graean naturiol i ran isaf Afon Elan. Ers hynny mae'r graean oedd yno wedi cael ei olchi i ffwrdd.

Dyna oedd yn angenrheidiol i fywyd yr afon, ond dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae 2,300 tunnell o raean wedi cael ei roi yn yr afon.

Ffynhonnell y llun, Sefydliad y Wysg a'r Gwy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwaith ar wely'r afon wedi caniat谩u i eogiaid i ddeor yno

Dangosodd arolygon cychwynnol yn 2017 fod bywyd gwyllt yn dechrau dychwelyd i'r ardaloedd graeanu.

Bellach mae pysgod ifanc wedi cael eu cofnodi yno am y tro cyntaf ers i'r monitro ddechrau yn y 1970au cynnar.

Mae cynnydd mawr wedi bod hefyd yn nifer yr eogiaid ymhellach i lawr yr afon.