大象传媒

Mark Drakeford o blaid arbrawf bwndeli babi yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Bocs babiFfynhonnell y llun, Llywodraeth Yr Alban
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna anghytuno ynghylch cyfraniad bocsys babi at atal marwolaethau yn y cryd

Fe fydd cynllun bocs nwyddau di-d芒l i rieni newydd yn cael ei ystyried os fydd Mark Drakeford yn dod yn brif weinidog nesaf Cymru cyn diwedd y flwyddyn.

Mae bwndeli babi, sy'n cael eu rhoi i rieni newydd yn Yr Alban ers 2017, yn cynnwys eitemau fel dillad a blancedi.

Dywed Mr Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Cymru a'r ceffyl blaen yn y ras i olynu Carwyn Jones fel arweinydd Llafur Cymru, y byddai'n croesawu cynllun peilot yng Nghymru, ond gan roi'r nwyddau mewn basged 'Moses' yn hytrach na mewn bocs.

Mae rhai yn Yr Alban wedi beirniadu'r defnydd o'r bocsys eu hunain fel crud yn dilyn honiadau eu bod wedi arwain at ostyngiad yn nifer marwolaethau yn y crud yn Y Ffindir, lle gafodd y cynllun ei sefydlu yn wreiddiol yn y 1930au.

Dywed Mr Drakeford - AC Gorllewin Caerdydd ac Ysgrifennydd Iechyd Cymru rhwng 2013 a 2016 - y byddai'r cynllun yn cydfynd ag ymroddiad Llafur Cymru i fynd i'r afael 芒 thlodi a phroblemau iechyd ymysg plant ifanc.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Mark Drakeford bod y bocsys yn cydfynd 芒 chynlluniau i atal tlodi a phroblemau iechyd ymysg plant

"Bydden ni'n dechrau gyda chynllun peilot mewn ardal ddaearyddol benodol a fyddai'n cael ei werthuso i asesu ei effaith ac i ddarganfod beth sy'n gweithio orau i rieni."

Mae amcangyfrif y byddai bwndeli babi yn costio rhwng 拢100 a 拢150 yr un i Lywodraeth Cymru. Gan fod o gwmpas 32,000 o enedigaethau yng Nghymru bob blwyddyn, fe fyddai cynllun ar draws Cymru yn costio bron 拢5m y flwyddyn.

Fe fyddai'r bwndeli hefyd yn cynnwys thermomedr, sling i gario babi a mat chwarae.

"Fe fyddai'r cynllun yma hefyd yn rhoi ffordd i ni roi gwybodaeth ymarferol bwysig a chyngor i ddarpar rieni am bethau fel ymarferion cysgu diogel a bwydo o'r fron," dywedodd.

"Fe allai pob rhiant ei gael, beth bynnag eu hincwm, oherwydd rydym oll angen ychydig o help ar adeg mor fawr yn ein bywydau."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Yr Alban
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r bocsys babi yn Yr Alban yn cynnwys amrywiaeth o eitemau defnyddiol i rieni newydd

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "dim cynlluniau ar hyn o bryd" i ddilyn esiampl Yr Alban ond bod bwriad i gynnal adolygiad i ba mor lwyddiannus ydy'r cynllun hwnnw.

Ychwanegodd eu bod "wedi ymrwymo i sicrhau fod pob plentyn yng Nghymru, beth bynnag eu hamgylchiadau, yn cael y dechrau gorau mewn bywyd".

Yr Alban oedd y wlad gyntaf trwy'r DU i gyflwyno'r bocsys i famau newydd ond roedd rhai awdurdodau iechyd mewn rhannau eraill o'r DU eisoes yn cynnig gwasanaeth tebyg.

Mae elusen sy'n ymgyrchu i atal marwolaethau yn y crud, The Lullaby Trust, wedi mynegi pryderon bod rhai bocsys yn cael eu marchnata fel rhai y gall babanod gysgu ynddyn nhw. Mae Llywodraeth Yr Alban yn mynnu bod y bocsys maen nhw'n eu cynnig yn cwrdd 芒'r safonau diogelwch uchaf posib ar gyfer y diben hwnnw

Yn 么l arbenigwyr yn Y Ffindir, mae peth camddealltwriaeth ynghylch gwir effaith bocsys babi yno, gan eu bod wedi cael eu cyflwyno ar yr un pryd 芒 gofal cynenedigol gwladol.