大象传媒

Adam Price yn gwrthod y posibilrwydd o glymbleidio

  • Cyhoeddwyd
Adam Price

Dylai'r syniad o glymblaid gyda'r Ceidwadwyr neu Lafur gael ei "roi o'r neilltu", meddai ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Roedd Adam Price yn ymateb i honiadau gan arweinydd y blaid, Leanne Wood y byddai "yn eithaf posib" y gwnai ef a Rhun ap Iorwerth daro bargen gyda'r Tor茂aid ar 么l yr etholiad nesaf.

Mae'r ddau yn herio Ms Wood am yr arweinyddiaeth.

Dywedodd Mr Price wrth raglen Newyddion 9 大象传媒 Cymru y dylai'r blaid ganolbwyntio yn hytrach ar adeiladu neges bositif.

'Troi yn yr unfan'

Meddai Adam Price: "Mae'r mandad y byddwn i yn ei geisio gan aelodau Plaid Cymru yn un clir ac hynod iawn sy'n gwrthod yn llwyr clymblaid gyda'r Ceidwadwyr, ond hefyd yn dweud yr un peth am y blaid geidwadol arall - y blaid 'c' fach, sef plaid y status quo sydd wedi bod yn rhedeg Cymru ers yr 20 mlynedd diwethaf."

Dywedodd AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr y byddai'n rhoi ei gefnogaeth i Leanne Wood pe byddai hi'n cael ei hailethol, ond dywedodd fod Plaid Cymru wedi bod yn troi'n yn yr unfan o dan arweiniad Ms Wood.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Adam Price a Rhun ap Iorwerth yn herio Leanne Wood am arweinyddiaeth Plaid Cymru

"Rhaid inni ennill - ar hyn o bryd nid ydym ar y trywydd iawn," dywedodd.

"Mae'n rhaid i ni newid g锚r a chanolbwyntio ar lwyddiant. Mae'n rhaid i ni gyfaddef, ar wah芒n i ryw lwyddiant yma ac acw, rydym wedi bod yn sefyll yn ein hunfan.

"Yn 么l yr arolwg barn diweddara', rydyn ni'n 17 pwynt y tu 么l i Lafur. Yn amlwg, mae yna rywbeth nad ydym yn ei wneud ar hyn o bryd."

Annibyniaeth

Mae gwleidyddiaeth Cymru, meddai, yn "dirwedd heb syniadau". Dywedodd wrth Newyddion 9 y gallai annibyniaeth yrru'r genedl ymlaen.

"Efallai bod Plaid wedi bod yn nerfus am ddefnyddio'r gair 'A', peidio 芒 throi'r drol neu rhywbeth. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr oherwydd yn y pen draw mae pobl yn ymateb i angerdd.

"Mae pobl yn hoffi pobl 芒 breuddwydion. Mae ein gweledigaeth sylfaenol yn un cadarnhaol, cenedl ffyniannus, hyderus, annibynnol "

Bydd canlyniad yr ornest yn cael ei gyhoeddi ar Fedi'r 28ain .