D诺r Cymru'n cyfaddef lladd miloedd o bysgod Afon Clywedog
- Cyhoeddwyd
Mae D诺r Cymru wedi cadarnhau mai nhw oedd yn gyfrifol am achosi llygredd laddodd miloedd o bysgod yn Afon Clywedog ger Wrecsam.
Fe effeithiodd y llygredd ar hyd at naw cilomedr o'r afon, gan arwain at golli sawl math o bysgodyn.
Brithyll yn bennaf, ond hefyd pen lletwad, llysywen bendoll, gwrachen farfog, gleisiad, twb y dail, llysywen, crothell, draenogyn d诺r croyw a philcod.
Ymddiheuriad
Yn 么l llefarydd ar ran D诺r Cymru: "Wrth gyflawni gwaith cynnal a chadw ar siambr yn un o'n safleoedd gwastraff d诺r yn Wrecsam ddechrau'r mis, fe lifodd na lygredd fewn i danciau d诺r Afon Clywedog.
"Fe achosodd hyn i'r pysgod farw ac rydym yn ymddiheuro am hyn. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac yn ymchwilio'n llawn i'r digwyddiad."
Daeth cadarnhad hefyd y bydd ymchwiliad mewnol llawn yn digwydd, gyda'r bwriad o wneud yn iawn am y difrod gafodd ei gyflawni.
Ychwanegodd y llefarydd: "Diogelu ein d诺r arfordirol ac afonydd rhag llygredd o'n rhwydwaith ni yw un o brif gyfrifoldebau D诺r Cymru.
"Ar yr achlysur yma fe fethom ni, ac o ganlyniad rydym yn ymddiheuro."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018