Galw am etholiad cyffredinol os gwrthod cytundeb Brexit
- Cyhoeddwyd
Dylai pobl gael y cyfle i bleidleisio mewn etholiad cyffredinol os yw'r llywodraethau datganoledig yn gwrthod y cytundeb Brexit terfynol, yn 么l Prif Weinidog Cymru.
Mae Carwyn Jones o'r farn y dylai unrhyw gytundeb a wnaed gan lywodraeth Theresa May gael ei gymeradwyo yn San Steffan, Caeredin a Chaerdydd.
Daw'r galwadau hyn yn sgil pwysau cynyddol o fewn y Blaid Lafur i gefnogi refferendwm arall ar Brexit.
Dywedodd Mr Jones wrth y 大象传媒 bod rhaid i Lafur gytuno ar eu polisi erbyn mis Tachwedd fan bellaf.
Mae disgwyl i D欧'r Cyffredin bleidleisio ar y cytundeb mae gweinidogion y DU wedi ei sicrhau ar ddiwedd eu trafodaethau gyda'r UE.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau y bydd pleidlais a thrafodaeth hefyd yn cael eu cynnal yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd.
Er hynny, pleidlais symbolaidd fydd hon gan nad oes modd i Aelodau Cynulliad orfodi Llywodraeth Cymru i weithredu neu atal Brexit.
Yn 么l Mr Jones nid yw'r "amser yn iawn ar gyfer refferendwm arall", ond efallai daw sefyllfa lle nad oes unrhyw ffordd arall i ddatrys yr anghydfod.
'Dim dewis arall'
"I mi, y cam nesaf yw gweld os oes modd i lywodraethau San Steffan, Caeredin a Chaerdydd gefnogi'r cytundeb," meddai Mr Jones.
"Os na ddigwyddith hynny, yna wela' i ddim dewis arall heblaw am etholiad cyffredinol lle mai Brexit fyddai'r prif bwnc trafod.
"Os fyddai canlyniad yr etholiad yno yn amhendant, yna sut gallwn i ddatrys y broblem heb fynd yn 么l at y bobl a wnaeth y penderfyniad yn y lle cyntaf?"
Ychwanegodd: "Ar y pwynt yno, dwi'n meddwl fod potensial ar gyfer ail refferendwm."
Mae Mr Jones yn credu y dylid cynnal etholiad cyffredinol os yw'r Cynulliad yn pleidleisio yn erbyn y cytundeb Brexit.
"Credaf ei bod hi'n bwysig bod cytundeb ar hyd y DU, ond mwy na thebyg y prawf mwyaf fydd sicrhau cytundeb o fewn Senedd y DU - ac mae hynny'n bell iawn o ddigwydd ar hyn o bryd," meddai.
Mae rhai yn galw ar y Blaid Lafur i drafod y cynnig o refferendwm arall yng nghynhadledd y blaid yn Lerpwl dros y penwythnos.
Mae'r ymgeiswyr i olynu Mr Jones fel arweinydd y blaid yng Nghymru eisoes wedi cefnogi'r syniad o gael refferendwm arall.
Dywedodd Mr Jones bod angen i Lafur "gynnal trafodaeth", ond bod rhaniadau dyfnach o fewn y Blaid Geidwadol.
Ychwanegodd ei fod yn "bryderus" am gefnogi refferendwm arall yn yr "amgylchiadau anghywir".
"Yn amlwg mae angen i ni fod 芒 safbwynt clir erbyn mis Hydref neu fis Tachwedd," meddai.
Mae gan Lywodraeth Cymru - sy'n cyflogi 198 o weision sifil ychwanegol i weithio ar Brexit - dasg "enfawr" wrth baratoi at adael yr UE, yn 么l Mr Jones.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2018
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2018