大象传媒

'Dydy cariad byth yn marw'

  • Cyhoeddwyd
beckyFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Pan mae rhywbeth da yn digwydd 'da ni'n meddwl pa mor dda fyddai cael Irfon yma," meddai Becky Williams.

Ym mis Mai 2017 fu farw Irfon Williams, yr ymgyrchydd canser a sylfaenydd ymgyrch Hawl i Fyw.

Roedd Irfon yn dod o Fangor, yn 46 oed ac yn dad i bump o blant.

Nos Sul 23 Medi mae gan S4C raglen arbennig yn edrych ar sut wnaeth gwraig Irfon, Becky, a'u dau o blant ddelio gyda'r galar. Mae Si么n bellach yn naw oed, a Ianto'n saith.

Mae'r rhaglen yn dilyn Becky a'r hogiau o fis Hydref 2017. Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Becky i glywed sut mae hi'n delio gyda galar a'r siwrne emosiynol mae hi a'r meibion wedi bod arno.

'Diolchgar am Irfon'

Mi roedd yn gyfnod anodd, hynod o galed. Ond dwi'n gallu edrych n么l r诺an dros y flwyddyn a hanner diwethaf, a dwi'n gallu gweld y newid, yn y fi'n hun a'r plant.

R诺an 'da ni'n ddiolchgar am Irfon a 'da ni'n gallu siarad am Irfon mewn ffordd bositif. Dydi'r tristwch ddim yna drwy'r amser bellach, ac mae'n rhyddhad i mi mewn gwirionedd. Dwi'n gallu chwerthin pan 'da ni'n cofio'r pethau doniol o'dd o'n 'neud.

Dydi galar ddim yn diflannu, mi fydd genna' i hwn drwy fy mywyd r诺an, a'r hogiau hefyd. Pan mae rhywbeth da yn digwydd 'da ni'n meddwl pa mor dda fyddai cael Irfon yma.

Ond mae'n rhaid i ni fel teulu ddysgu sut mae byw efo'r galar 'ma - dyna'r her i ni r诺an.

'Galaru'n iawn'

Dwi 'di bod yn darllen lot am alaru, ac o'n i'n benderfynol iawn i alaru yn iawn. Os dwyt ti ddim yn mynd drwy'r galar, mae'r teimladau'n ailymddangos rhywle yn y dyfodol.

O'n i'n benderfynol mod i a'r hogia'n teimlo'r emosiynau anodd sy'n dod i'r wyneb. Does 'na ddim ffordd rownd hynna, mae'n rhaid i ti fynd drwy'r boen.

Mae yna gymysgedd o emosiynau, ac yn 么l y seiciatrydd Dr Elizabeth K眉bler Ross mae 'na bum cam i alaru (gwrthod derbyn, dicter, bargeinio, iselder a derbyn). Mae'r hyn mae Dr K眉bler Ross yn ddweud yn gosod fframwaith, ac mae wedi bod yn help i ni er mwyn cydnabod y broses emosiynol dwi'n mynd drwyddo.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tra roedd Irfon yn s芒l fe sefydlodd gwmni Hanner Llawn i roi cyngor a chefnogaeth i bobl ar agweddau iechyd meddwl

Does 'na ddimstops ar y ffordd, dwyt ti ddim yn stopio ar y ffordd efo cyfnodau o ryw dair wythnos yn flin ac yna mynd yn 么l fel oeddat ti. Ond drwy ddefnyddio'r fframwaith, mae'n helpu i ddeall pethau'n gliriach.

Dwi'n gallu gweld r诺an fy mod wedi mynd drwy'r camau o alaru fy hun. O'n i'n flin pan fu farw Irfon a gofyn "Pam fi?!". Ond o'n i wedi dechrau galaru cyn i Irfon farw, achos o'n i'n gallu gweld bod o am farw. Felly mewn ffordd oeddan ni wedi dechrau galaru gyda'n gilydd, ac mae wedi bod yn broses hir.

Roedd Irfon yn galaru wrth gwrs, achos oedd o'n gwybod bod o am farw, ac oddan ni'n gallu cael sgyrsia' efo'n gilydd am y dyfodol a beth oedd am ddigwydd i'r hogiau. Roedd hwnna'n gysur mawr i mi, fy mod yn magu'r hogiau fel y byddai Irfon eisiau.

Defnyddio technegau 'Mindfulness'

Dydi mindfulness ddim yn cuddio'r boen, ond mae o'n cadw dy hun yn y presennol. O'n i'n poeni lot am y dyfodol, beth oedd am ddigwydd i fi a sut o'n i am ymdopi efo bywyd - roedd o'n achosi pryder mawr.

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Becky gyda'i meibion, Si么n a Ianto, ac hefyd Rhys Edwards and Ems Jones a oedd yn gweithio yn cynhyrchu'r rhaglen deledu

Mae mindfulness yn stopio fi i boeni am y dyfodol ac mae'n helpu i mi gydnabod fy emosiynau. Felly os dwi'n teimlo'n drist fe alla i eistedd gyda'r emosiwn yna, a'i deimlo fo hefyd. Mae 'di bod yn help i fy ngalluogi i gysgu hefyd.

Mae'r hogia' 'di dangos diddordeb mewn mindfulness ac maen nhw'n defnyddio ap mindfulness i blant - dwi'n gweld hyn yn bositif iawn.

Balchder

'Da ni'n falch iawn o Irfon a beth wnaeth o gyflawni. Pan mae rhywun yn marw mae'n drist bod chi ddim yn siarad amdano. Ond 'da ni'n lwcus bod 'na legacy mawr efo Irfon, a 'da ni'n siarad amdano fo bob dydd. Mae 'na lyfr ac mae 'na raglen teledu wedi bod, felly mae yna lot ar gael i'r hogia ddysgu am Dad.

Dydy cariad ddim yn marw, mae hwnna a'r atgofion efo ni, a da ni'n falch iawn o rhain.

Mae'r rhaglen yn dangos bywyd teulu ifanc yn mynd trwy alar, achos dwi'n meddwl bod pobl efo syniad o sut beth yw galar, ond 'da ni'n aml yn meddwl mai jest tristwch ydi o - ond mae 'na lot o emosiynau eraill.

Mae mynd drwy'r galar yn brofiad unig iawn, yn enwedig os ti'n ifanc, ac ar y dechrau o'n i'n teimlo mai fi oedd yr unig wraig weddw yn y byd. Os yw rhywun yn wynebu colli rhywun, neu wedi colli rhywun ac yn teimlo'n unig ac yn desbret a ddim yn gwybod beth i'w wneud... dwi'n teimlo os fydd un person yn cael help drwy'r rhaglen, fydd o'n werth chweil.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae galar yn cwmpasu llawer iawn o emosiynau, nid tristwch yn unig meddai Becky

Mae'r rhaglen Byw heb Irfon yn rhan o gyfres Drych ar S4C.

Hefyd o ddiddordeb: