大象传媒

Cynnydd yn y nifer sy'n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
cymraegFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn awgrymu fod nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu yn y degawd diwethaf.

Yn 么l Arolwg Blynyddol y Boblogaeth o bobl tair oed a throsodd gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau, mae cynnydd o 3.5 pwynt canran wedi bod yn nifer y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Hyd at ddiwedd Mehefin 2008, roedd 726,600 wedi dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg yng Nghymru, sy'n 25.8% o'r boblogaeth.

Bellach, erbyn diwedd Mehefin 2018, mae'r arolwg yn awgrymu fod 874,700 allan o 2.987m o bobl yn gallu siarad Cymraeg yng Nghymru, sy'n 29.3% o'r boblogaeth.

Dywedodd Gweinidog dros y Gymraeg, Eluned Morgan: "Tra bod yr wybodaeth o'r arolygon hyn yn ddefnyddiol, mae'n bwysig cofio mai'r cyfrifiad yw'r ffynhonnell awdurdodol ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a dyma yw sail ein huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg.

'Holi 31,000'

Yn 么l yr arolwg, mae cynnydd wedi bod ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ers 2008, heblaw am Sir y Fflint a Thorfaen.

Roedd nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng yn Sir y Fflint o 29.5% yn 2008 i 23.3% yn 2018 ac roedd gostyngiad bach yn Nhorfaen - o 18.4% yn 2008 i 17.9% yn 2018.

Mae Arolwg Blynyddol y Boblogaeth yn arolwg sy'n cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar draws y DU ac mae'r data ar gael yn chwarterol.

Gwynedd sy'n parhau y sir gyda'r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg gyda 76.4% yn dweud eu bod yn gallu siarad y iaith, a Sir Gaerfyrddin sydd 芒'r nifer uchaf, sef 91,200.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cynnydd mwyaf o siaradwyr Cymraeg dros y degawd diwethaf wedi bod yn Sir Benfro.

Mae'r cynnydd mwyaf dros y ddegawd diwethaf wedi bod yn Sir Benfro. Yn 2008 roedd 20.8% yn gallu siarad yr iaith, bellach mae 30.2% yn medru, sy'n gynnydd o 12,300 person.

Ar gyfer y canlyniadau mwyaf diweddar (Mehefin 2017 i Mehefin 2018), fe gafodd na 31,000 o bobl eu holi yngl欧n 芒'r gallu i siarad Cymraeg mewn 14,500 o aelwydydd gwahanol.

Canran y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn awdurdodau lleol Cymru:

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffynhonell: StatsCymru

Mae Rhidiian Evans wedi bod yn brif swyddog Menter Iaith Sir Benfro ers 15 mlynedd a dywedodd ei fod yn "sioc" iddo weld y ffigyrau.

"Yn sicr mae mwy o frwdfrydedd tuag at y Gymraeg wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dwi wedi sylwi hefyd llai o gasineb tuag at yr iaith yn y sir.

"Mae 'na gynnydd wedi bod mewn addysg Gymraeg, yn enwedig gydag ysgolion ffrwd Gymraeg newydd yn agor yn Ninbych-y-pysgod ac yn fwy diweddar Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd.

"Mae 'na gynnydd o ran oedolion yn mynychu cyrsiau Cymraeg, a dwi'n sylwi fod pobl sy'n symud i'r ardal yn fwy parod i ddysgu'r iaith, sy'n beth braf," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan yn "ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y twf hwn"

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws fod y "ffigyrau hyn yn hynod o galonogol ac yn awgrymu ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir o safbwynt cynyddu'r niferoedd sy'n gallu siarad Cymraeg".

"Calonogol hefyd yw gweld bod y darlun cadarnhaol hwn yn weddol o gyson ar draws Cymru.

"Wrth gwrs, bydd angen aros hyd nes caiff canlyniadau'r Cyfrifiad eu cyhoeddi er mwyn cael darlun mwy cynhwysfawr o'r sefyllfa, a honno fydd y ffynhonnell y byddwn yn talu sylw agos iddi o safbwynt mesur llwyddiant strategaethau hybu'r Gymraeg," meddai.

'Miliwn o siaradwyr'

Ychwanegodd Ms Morgan: "Mae'r ystadegau hyn yn galonogol iawn, ac rwyf yn falch iawn o weld bod y niferoedd sy'n datgan eu bod yn gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu dros y degawd diwethaf.

"Mae'r ffigurau hyn yn cadarnhau bod y gwaith yr ydym yn ei wneud yn y maes hwn yn cael effaith gadarnhaol wrth i ni weithio tuag at ein targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y twf hwn," meddai.