Archeolegwyr yn ceisio profi union oed Clawdd Offa
- Cyhoeddwyd
Ceisio dod o hyd i union oed Clawdd Offa yw pwrpas menter newydd archeolegwyr ger Castell y Waun.
Mae Clawdd Offa - henebyn hynaf Prydain - yn ymestyn 177 milltir (285km) o Gas-gwent i Brestatyn ac wedi'i enwi ar 么l brenin Mercia o'r wythfed ganrif.
Y gred yw mai Offa adeiladodd y clawdd fel ffin rhwng ei deyrnas a Chymru.
Fodd bynnag, mae nifer yn dadlau am union oed y clawdd, sy'n mynd trwy dir Castell y Waun.
Mae archwiliad o'r clawdd yn y gorffennol gan arbenigwyr wedi dangos bod y gwaith adeiladu wedi dechrau rhwng 430 a 652 CC - dros 200 mlynedd yn gynt na'r dyddiad mae rhai'n credu ei fod wedi cael ei adeiladu.
Erbyn hyn, mae aelodau o Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys (CPAT) yn arwain archwiliad yng Nghastell y Waun ac yn gobeithio bydd hynny'n cynnig mwy o atebion.
Mae'r arbenigwyr hefyd yn gobeithio y bydd yn dangos bod adeiladu Clawdd Offa wedi dechrau gan frenin cynharach.
Maen nhw'n gobeithio darganfod gwaddol defnyddiau fel siarcol - deunyddiau sy'n gallu cael eu hanfon am brofion i ganfod eu hoedran.
Yn 么l yr archeolegydd, Ian Grant: "Mae rhai wedi credu ers sbel bod y clawdd wedi cael ei adeiladu gan Frenin Offa, er bod academyddion ac arbenigwyr hefyd wedi meddwl bod y cloddwaith wedi cael ei ddechrau gan rywun arall.
"Roedd yn rhyw waith-ar-ei-hanner a gafodd ei adeiladu dros ddau neu dri chan mlynedd."
Mae'r prosiect ar y cyd rhwng CPAT a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae'n canolbwyntio ar gloddwaith yng Nghastell y Waun, yn ogystal 芒 Chlawdd Wat yn Erddig ger Wrecsam.
Hyd yn oed os daw defnydd y gall arbenigwyr ei ddefnyddio i bennu dyddiad i'r fei, mae'r CPAT wedi dweud na fydd unrhyw ganlyniadau ar gael am fisoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2014