大象传媒

拢6m i weithwyr Ford, Toyota ac Airbus yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog Carwyn Jones gyhoeddi ddydd Llun y bydd 拢6m o bunnau ar gael i gefnogi gweithwyr Ford, Toyota ac Airbus yng Nghymru.

Yng nghynadledd flynyddol y Blaid Lafur mae disgwyl iddo ddweud na all Cymru fforddio Brexit 'heb gytundeb' ac y bydd yr arian yn dod o Gronfa Bontio UE Llafur Cymru.

Mae disgwyl i Mr Jones ddweud yn y gynhadledd yn Lerpwl mai Brexit sy'n hawlio sylw'r dydd ac mai anallu Llywodraeth Geidwadol San Steffan sy'n gyfrifol am y tebygolrwydd o gael Brexit heb gytundeb.

"Mi allai Papur Gwyn Chequers," meddai, "fod yn fan cychwyn da ar gyfer trafodaethau ddwy flynedd yn 么l cyn i Theresa May anfon llythyr Erthygl 50 ond mae'n rhy hwyr bellach gyda dim ond rhai wythnosau o drafod ar 么l.

"Os yw Brexit yn gadael ein gwlad yn dlotach, yn unig yn rhyngwladol ac yn rhanedig gadewch i ni feio'r sawl sy'n gyfrifol - yn gyntaf y sawl oedd o blaid Brexit ac a ddywedodd wrthym y byddai'n hawdd cael gwell cytundeb heb fod yn rhan o'r UE.

"Ac yn ail rhaid beio Llywodraeth San Steffan. Mae'n amser cael gwared arnynt. Gall Cymru ddim fforddio Brexit heb gytundeb.

Sgiliau newydd

Bydd Mr Jones yn ychwanegu mai ei gyfrifoldeb ef fel Prif Weinidog "yw paratoi y wlad ar gyfer unrhyw ganlyniad posib a dyna pam dwi'n cyhoeddi'r arian yma i weithwyr Ford, Toyota ac Airbus yng Nghymru.

"Bydd yn rhoi sgiliau newydd i weithwyr Cymru wrth iddynt baratoi am ddyfodol ansicr."

Hon fydd araith olaf Carwyn Jones yng nghynadledd flynyddol y Blaid Lafur.

Prif bwnc trafod y gynhadledd eleni yw a ddylai Llafur gefnogi'r alwad am gael refferendwm arall ar gytundeb Brexit.

Yn y gorffennol mae Mr Jones wedi dweud na ddylid cael refferendwm arall oni bai bod y llywodraeth yn gwrthod cynnig terfynol Brexit a bod Mrs May yn gorfod cynnal etholiad cyffredinol.