Fideo dadleuol: Galw am ailystyried
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau ar gomisiynydd safonau'r Cynulliad Cenedlaethol i egluro'r penderfyniad fod fideo gafodd ei wneud gan arweinydd UKIP yng Nghymru, Gareth Bennett, am yr AC Llafur Joyce Watson ddim yn rhywiaethol.
Mae nifer o Aelodau Cynulliad wedi dweud wrth raglen Wales Live 大象传媒 Cymru eu bod yn teimlo fod y fideo yn rhywiaethol.
Mae un ohonyn nhw, Bethan Sayed, yn credu y dylai'r comisiynydd Syr Roderick Evans ailystyried ei benderfyniad.
Dywedodd llefarydd ar ran y comisiynydd nad yw'n "gwneud sylwadau am achosion unigol".
Yn y fideo ar wefan YouTube mae Gareth Bennett yn cyfeirio at y ffaith fod Ms Watson yn arfer rhedeg tafarn, ac yn dweud "ond fyddech chi ddim yn credu hynny o edrych arni".
Dywedodd hefyd: "Dyw hi ddim yn edrych fel enaid y parti. Dwi ddim yn siwr fyddwn i'n mynd am beint sydyn i'r dafarn leol pe bydde'n i'n ei gweld hi'n tynnu peintiau wrth y bar."
Mae'r fideo yn cynnwys delwedd o wyneb Ms Watson wedi ei osod ar gorff barforwyn mewn ffrog 芒 gwddf isel.
Fe wnaeth Ms Watson gwyno i'r comisiynydd am hyn, ond mae'r 大象传媒 yn deall fod Syr Roderick wedi penderfynu nad oedd yn rhywiaethol nac yn fisogynistaidd ac felly ni wnaeth fynd 芒'r mater ymhellach.
Wrth ymateb i'r penderfyniad fe ysgrifenodd Joyce Watson lythyr ato yn dweud: "Dydych chi ddim yn ystyried y fideo yn 'rhywiaethol nac yn fisogynistaidd'.
"Rwy'n gwerthfawrogi nad ydych yn feirniad chwaeth ar lefel y dadlau gwleidyddol. Ond rwy'n sicr fod y fideo yn disgyn y tu allan i ffiniau 'dadlau cadarn', a bod y gymhariaeth gyda 'buxom barmaids' yn rhywiaethol.
"Er mai materion goddrychol yw'r rhain, rwy'n credu y byddai wedi bod yn fwy priodol i gyfeirio fy achos at Bwyllgor Safonau'r Cynulliad am ystyriaeth ehangach, yn enwedig o ystyried y polisi Parch ac Urddas newydd."
Mae ACau o'r tair prif blaid wedi dweud wrth Wales Live eu bod yn credu bod y fideo yn rhywiaethol.
Dywedodd Bethan Sayed o Blaid Cymru: "Gyda phob parch i'r comisiynydd safonau, dyw ef ei hun heb brofi rhywiaeth na misogyny yn ei fywyd, ac rwy'n credu os ydych chi'n fenyw sydd wedi cael ei thrin felly yna fe fyddech chi'n dweud yn syth 'mae hynny'n rhywiaethol'.
"Dydw i ddim yn credu fod lle i hynny yng ngwleidyddiaeth Cymru o gwbl, ac fe ddylai'r penderfyniad gael ei ailystyried.
"Yr hyn sy'n rhaid i ni ddeall gan y comisiynydd safonau yw sut y daeth i'r penderfyniad nad oedd yn rhywiaethol.
"Pa gyngor a gafodd? A wnaeth e ofyn am gyngor? Pam na wnaeth gyfeirio'r mater at y Pwyllgor Safonau?"
'Neges anghywir'
Mae Gwendolyn Sterk o Cymorth i Ferched Cymru hefyd am i'r comisiynydd egluro'r penderfyniad, gan ychwanegu ei fod yn rhoi'r neges anghywir.
"Yn sicr fe fydd yn cael effaith ar yr hyder sydd gan ferched yn y system," meddai.
"Ry'n ni'n gwybod fod merched ifanc yn ymatal rhag mynd i fyd gwleidyddiaeth oherwydd y driniaeth y maen nhw'n ei gael ar-lein.
"Bydd gweld nad yw hyn yn cael ei ddelio gydag e'n effeithiol yn atal mwy o ferched rhag mynd i wleidyddiaeth."
Dywedodd llefarydd ar ran y comisiynydd safonau: "Nid yw'r Comisiynydd yn gwneud sylwadau am achosion unigol, ac nid oes ganddo sylw pellach ar hyn o bryd."
Bydd rhaglen Wales Live yn cael ei darlledu ar 大象传媒 1 Cymru ar nos Fercher, 26 Medi am 22:35.