大象传媒

Guto Harri yn amddiffyn cyfweld 芒 Katie Hopkins i S4C

  • Cyhoeddwyd
Katie Hopkins

Mae'r newyddiadurwr Guto Harri wedi amddiffyn penderfyniad cyfres deledu ar S4C i gyfweld 芒'r cyflwynydd dadleuol, Katie Hopkins.

Mae rhaglen 'Y Byd yn ei Le' ar S4C, sy'n cael ei chyflwyno gan Mr Harri, wedi gwneud cyfweliad gyda Ms Hopkins, i'w darlledu ddydd Mawrth nesaf.

Mae'r penderfyniad i wneud y cyfweliad wedi ennyn ymateb chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol ar 么l i Ms Hopkins gwestiynu gwerth addysg Gymraeg yn ddiweddar a galw'r Gymraeg yn "iaith farw".

Wrth siarad ar raglen Taro'r Post 大象传媒 Radio Cymru ddydd Mercher, dywedodd Mr Harri ei fod yn anghytuno gyda safbwyntiau Ms Hopkins, ond bod dyletswydd arno fel newyddiadurwr i'w "herio".

'Paldaruo nonsens'

"Mae gan Katie Hopkins, er gwell neu er gwaeth, bron i filiwn o ddilynwyr," meddai Mr Harri.

"Pan mae hi'n dweud pethau am y Gymraeg, er bo' fi yn bersonol yn cas谩u ac yn anghytuno'n chwyrn gyda beth mae'n ei ddweud am yr iaith, mae 'na bobl sydd yn gwrando ar hyn ac yn credu hynna.

"A'n r么l ni fel newyddiadurwyr, sydd yn wahanol i bobl sy'n cynrychioli pleidiau neu sy'n gyfrifol am bropaganda, yw trio deall beth yw cymhelliad pobl, trio deall beth sy'n eu harwain nhw i ddweud pethe, a trwy eu herio nhw geisio dangos gwendid eu dadl, a gobeithio eu perswadio i beidio 芒 phaldaruo'r un nonsens yn y dyfodol."

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan G W E N N O

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan G W E N N O
Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Guto Harri

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Guto Harri

Fe wnaeth Ms Hopkins gorddi'r dyfroedd yn gynharach fis Medi drwy ofyn os ydy'r Saesneg wedi'i gwahardd yn yr ystafell ddosbarth yng Nghymru.

Aeth ymlaen i awgrymu fod y Gymraeg yn "iaith farw" mewn cyfres o drydariadau.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 3 gan Katie Hopkins

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 3 gan Katie Hopkins

"Does yna neb hyd yma, heblaw am y criw cynhyrchu, wedi gweld y cyfweliad, ac eto mae gymaint o bobl yn hytrach na gwylio'r rhaglen ddeallus, ddiddorol gyda ffigyrau o bwys, o'n nhw ar [Twitter] yn ymosod ar gyfweliad 'dyn nhw ddim hyd yn oed wedi ei glywed," ychwanegodd Mr Harri.

"Na, ethon ni ddim i holi Katie Hopkins fel arbenigwraig ar addysg - ethon ni i siarad gyda hi achos ei bod hi wedi creu st诺r.

"Nes i ddim ymateb iddi pan na'th hi'r st诺r cynta', ond na'th na lond lle o Gymry Cymraeg.

"Felly os 'dyn nhw'n teimlo ei bod hi'n iawn i gael y ddadl ar Twitter, do's bosib bod yna le i newyddiaduraeth i groesholi'r fenyw 'ma ac i drio deall ei safbwyntiau hi ac i drio dangos gwendidau ei dadl hi. A dyna dr茂on ni ei wneud."

'Ddim yn deall Cymru'

"R么l newyddiaduraeth, a dyw hi ddim yn un gyfforddus wastad, yw i herio pethe ac i ddeall y byd o'n cwmpas ni," meddai.

"A'r gwir amdani ydy bod rhywun sy'n dod i Gymru ac yn dweud pethe croch am ein cenedl ni yn mynd i ddylanwadu ar bobl.

"Ac mae'n bwysig bod rhai ohonon ni yn taro n么l - nid jest drwy daflu sylwadau rhad ar gyfryngau cymdeithasol - ond trwy fynd i afael 芒'r ddadl a dangos iddi fod hi ddim yn deall Cymru, ddim yn gwerthfawrogi Cymru, bod hi 'di cael cymaint o bethe yn wrong... a dyna dwi'n ei wneud yn y cyfweliad yma."

Mewn datganiad, dywedodd S4C: "Oherwydd y diddordeb sydd wedi ei ddangos yn y cyfweliad gyda Katie Hopkins, mae 'Y byd yn ei le' wedi ei ryddhau ar-lein heno. I gadarnhau NI CHAFODD ffi ei dalu am y cyfweliad."

Mae'r 大象传媒 wedi gofyn i ITV Cymru am ymateb.