Lluniau: Meysydd glo de Cymru yn yr 80au
- Cyhoeddwyd
Wedi ap锚l am fwy o wybodaeth am gasgliad arbennig o luniau o ddyddiau olaf rhai o byllau glo de Cymru mae Archifdy Morgannwg wedi dod o hyd i'r ffotograffydd wnaeth eu tynnu.
Mae'r lluniau'n dangos glowyr ym mhwll glo Abercynon tua 1980 ac yn cofnodi cau pyllau eraill yn yr 1980au.
Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys lluniau o blant a theuluoedd yn casglu glo o'r tipiau yn ystod streic y glowyr 1984-1985.
Ffotograffydd amatur o'r enw Leslie Price a oedd yn gweithio yng Nglofa Abercynon wnaeth dynnu'r lluniau i gofnodi bywyd yn y glofeydd ac yn ystod y streic.
Fe gawson nhw eu trosglwyddo i'r archifdy ddechrau 2018 wedi iddyn nhw gael eu darganfod yn yr Alban lle roedden nhw wedi cael eu harddangos.
Mae enwau rhai o'r glowyr ar y lluniau ond mae'r archifdy'n dal eisiau gwybod mwy am y pyllau a'r bobl yn y lluniau.
Dyma ddetholiad o'r 79 o luniau sydd yn y casgliad i gyd -
Mae
Hefyd o ddddordeb: