大象传媒

Dros 200 yn trafod darpariaeth meddygol Llandysul

  • Cyhoeddwyd
Cyfarfod Llandysul
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Bwrdd Iechyd Hywel Dda fe fydd llythyron yn cael eu hanfon at bob claf o fewn y pythefnos nesaf

Mae dros 200 o bobl wedi mynychu cyfarfod i drafod dyfodol gwasanaethau meddygol yn Llandysul, yn dilyn pryderon am ddiffyg gwybodaeth wedi i feddygfa lleol gyhoeddi eu bod am gau.

Fis Awst fe gadarnhaodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda fod y meddygon teulu yn un o'r ddwy feddygfa sy'n y dref, Meddygfa Teifi, wedi penderfynu dwyn eu cytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol i ben.

Bydd y gwasanaeth yn dod i ben wedi Ionawr 2019, ac mae'r bwrdd wedi cadarnhau eu bod bellach yn trafod gyda meddygfeydd lleol eraill yngl欧n ag adleoli cleifion.

Roedd nifer a oedd yn y cyfarfod brynhawn Mercher yn cwyno nad oedden nhw wedi derbyn digon o wybodaeth yngl欧n 芒'r newidiadau.

Meddygfa agosaf

Mae gan Feddygfa Teifi dros 6,000 o gleifion, ac mae disgwyl i rai gael eu trosglwyddo i ofal meddygfa arall yn Llandysul, sef Meddygfa Llyn-y-Fran, ond nid pob un.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Mae'r Bwrdd yn ystyried yn ofalus yr effaith ar feddygfeydd eraill yn ogystal 芒 phryderon posibl y cleifion ar yr adeg hon o newid."

"Bydd y Bwrdd Iechyd yn ystyried ble mae pob claf unigol yn byw wrth benderfynu pa feddygfa yn yr ardal yw'r fwyaf priodol i'w derbyn."

Wrth ateb cwestiynau cleifion ddydd Mercher, dywedodd cynrychiolwyr ar ran y bwrdd y bydd llythyron yn cael eu hanfon at bob claf o fewn y pythefnos nesaf.

Mae rhai o gleifion y feddygfa eisoes wedi derbyn llythyr yn eu hysbysu am y newid, ac i roi gwybod iddyn nhw ble fydd eu meddygfa agosaf wedyn.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dros 6,000 o gleifion wedi cofrestru gyda Meddygfa Teifi yn Llandysul

Ar raglen Taro'r Post 大象传媒 Cymru yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y cynghorydd lleol, Keith Evans, ei fod e a chleifion eraill "wedi cael eu gadael yn y niwl" yngl欧n 芒'r hyn oedd am ddigwydd nesaf i'r gwasanaeth.

"Yr anwybodaeth sy'n peri gofid i bobl... y peth pwysig i gofio ydy, er bod yr awdurdod iechyd yn mynd i gynnal y sesiwn yma, un i un yw'r cyfarfod, felly bydd y neges yn dod allan yn dibynnu ar ba gwestiynau fydd yn cael eu gofyn gan y cleifion.

"Dwi'n pryderu'n fawr iawn hefyd beth sy'n mynd i ddigwydd i'r holl wasanaeth cefndirol gyda'r nyrsys ac yn y blaen, achos ma' nhw ar hyn o bryd yn gweithio mas o Feddygfa Teifi."

'Cynnal safonau'

Mewn datganiad gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Gofal Hirdymor: "Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gynnal y safonau gofal uchel sy'n cael eu darparu ym Meddygfa Teifi yn bresennol, a dymunwn sicrhau cleifion y bydd y gwasanaethau pwysig hyn yn parhau i gael eu darparu yn yr ardal hon.

"Rydym wedi cytuno i gydweithio 芒 Meddygfa Teifi a meddygfeydd cyfagos i ganfod y ffordd orau i sicrhau gwasanaethau ar gyfer y cleifion.

"Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydnabod cefnogaeth barhaus y gymuned i'r t卯m ym Meddygfa Teifi, ac rydym yn gwerthfawrogi gwasanaeth hir y feddygfa i'w chleifion."