大象传媒

Ymchwiliad i 26 o farwolaethau babanod mewn ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Dynes a babiFfynhonnell y llun, romrodinka/Getty Images

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn ymchwilio i achosion 20 o fabanod gafodd eu geni'n farw a chwe achos arall o fabandod wnaeth marw ychydig ar 么l cael eu geni.

Fe wnaeth y Bwrdd, sy'n gwasanaethau tua 300,000 o bobl yng nghymoedd y de, gadarnhau ei fod yn edrych ar gyfanswm o 43 o achosion lle'r oedd canlyniadau niweidiol dros gyfnod o ddwy flynedd o 2016.

Dywedodd y bwrdd fod adolygiad diweddar wedi dod ar draws achosion o ddechrau 2016 oedd yn cynnwys "canlyniadau niweidiol a oedd angen ymchwiliad llawn".

Mae'r ymchwiliad i enedigaethau yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

"Rydym wedi mynd yn 么l ac edrych ar bob un o'r achosion yma yn fwy manwl i ddarganfod a gafodd yr holl gamau priodol eu cymryd ar y pryd," meddai'r bwrdd mewn datganiad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae newidiadau eisoes ar y gweill ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Siarl

Daw'r datganiad wedi newidiadau i wasanaethau mamolaeth yn yr ardal.

Bydd gwasanaethau yn cael eu harwain gan fydwragedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac mae 拢6m yn cael ei wario ar ehangu uned gofal arbenigol i fabanod yn Ysbyty'r Tywysog Charles i fod yn ganolfan newydd-enedigol arbenigol o fis Mawrth ymlaen.

Yn 么l y bwrdd, maen nhw eisoes wedi gweithredu nifer o gamau, gan gynnwys recriwtio staff profiadol a 15 o fydwragedd ychwanegol.

'Cymorth ychwanegol'

Ychwanegodd: "Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau dros gleifion o ddifrif ac yn benderfynol o wneud popeth sydd angen i sicrhau ein bod yn darparu'r gofal gorau posib i fenywod a'u babanod."

Dywedodd y bwrdd lle bod yna faterion yn codi yna byddant yn cysylltu 芒'r teulu "gydag ymddiheuriad a'u cyfeirio at y drefn o wneud yn iawn am y cam."

"Bydden ni'n rhoi cymorth ychwanegol ac unrhyw iawndal, fel sy'n briodol," meddai'r datganiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym mewn cysylltiad cyson gyda Cwm Taf i sicrhau bod y camau cywir yn cael eu cymryd ac yn monitro'r sefyllfa yn fanwl.

"Mae hynny'n cynnwys sicrhau cefnogaeth i'r teuluoedd a staff sydd 芒 phryderon.

"Rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn roi cymorth i wasanaeth mamolaeth y bwrdd, yn y tymor byr a'r hir dymor.

"Mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi siar芒d gyda Cadeirydd y Bwrdd i fynegi ei bryderon ac mae'n ystyried pa gamau pellach sydd eu hangen."

Ffynhonnell y llun, sturti/Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae systemau cofnodi achosion difrifol yn cael eu gwella fel rhan o'r adolygiad

Dywedodd y Prif Weithredwr, Allison Williams wrth y bwrdd ym mis Medi ei bod yn comisiynu adolygiad, gan gynnwys "adolygiad cadarn" o'r system gofnodi achosion difrifol yn y tair blynedd diwethaf.

Mae'r camau'n cynnwys edrych yn fanwl o'r newydd ar ddulliau cofnodi digwyddiadau a hyfforddi staff perthnasol.

Mae cynllun gwella yn cael ei lunio yn y chwe mis nesaf dan arweiniad cyn-gyfarwyddwr nyrsio annibynnol, gyda phanel o arbenigwyr a chymorth swyddogion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ms Williams wrth y bwrdd yn ei hadroddiad bod "arbenigedd ac archwilio allanol" yn bwysig o ran

Dywedodd Helen Rogers, cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru: "Beth sy'n bwysig yw bod unrhyw adolygiad yn cael ei wneud mor gyflym 芒 phosib, o ran y teuluoedd a'r staff. Byddwn yn cefnogi ein haelodau yn ystod y broses."

Dywed y bwrdd iechyd pe bai unrhyw un 芒 chonsyrn am y gwasanaethau yna y dylid cysylltu 芒 08000 328999 rhwng 08:00 a 18:00 dydd Llun i ddydd Gwener neu anfon e-bost at CTHB_concerns@wales.nhs.uk