大象传媒

Cyhoeddi ail gyfres i'r ddrama Un Bore Mercher

  • Cyhoeddwyd
Eve Myles
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Eve Myles, neu Faith Howells, yn dychwelyd - ond a fydd y g么t felen?

Mae gwaith wedi dechrau ar ail gyfres i'r ddrama Un Bore Mercher.

Cafodd y gyfres gyntaf ei darlledu yn Gymraeg ar S4C, yna'n Saesneg fel Keeping Faith ar 大象传媒 One Wales, ac yna ledled y DU ar 大象传媒 One.

Aeth ymlaen i dorri record 大象传媒 iPlayer am y nifer o lawrlwythiadau - dros 9.5 miliwn.

Mae'r cynhyrchiad - wedi'i wneud ar y cyd rhwng S4C a 大象传媒 Cymru - yn adrodd hanes Faith Howells (Eve Myles) a'i brwydr i fynd at wraidd diflaniad annisgwyl ei g诺r.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o'r cast: Bradley Freeguard, Eve Myles, Cath Ayres ac Aneirin Hughes

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, bod y ddrama wedi "cydio yn nychymyg y gynulleidfa ac mae'n dangos y gall pethau gwych ddigwydd pan fydd darlledwyr yn ymuno".

Mae disgwyl i'r ail gyfres gael ei darlledu yn Gymraeg yn gyntaf yn 2019.