Cwm Taf: Ymchwiliad gofal mamolaeth "o fewn wythnosau"

Bydd ymchwiliad annibynnol i safonau gofal mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn dechrau "o fewn wythnosau", yn 么l yr Ysgrifennydd Iechyd.

Er hyn dywedodd Vaughan Gething nad oedd modd dweud pryd yn union bydd y gwaith wedi ei gwblhau - a hynny oherwydd ei bod hi'n dibynnu ar faint o arbenigwyr sy'n dewis ymgymryd 芒'r gwaith.

Dywedodd Mr Gething y hoffai roi rhyddid i'r arbenigwyr ystyried fwy o achosion dros gyfnod hirach na'r ymchwiliad presennol i'r bwrdd iechyd.

"Dydw i ddim eisiau gosod amserlen artiffisial," meddai, "ond hoffwn weld yr adolygiad yn cael ei gwblhau mor fuan 芒 phosib" er mwyn dysgu gwersi cyn gynted 芒 phosib.

Dydd Gwener ddiwethaf fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd ymchwiliad allanol yn cael ei gomisiynu i safonau gofal mamolaeth yn ardal Cwm Taf.

Daeth y cyhoeddiad ar 么l iddi hi ddod i'r amlwg fod y bwrdd iechyd yn ymchwilio 43 achos 芒 "chanlyniadau niweidiol" ers dechrau 2016.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Gething bod y bwrdd iechyd bellach yn edrych ar gyfanswm o 44 achos.

Roedd 20 achos o enedigaethau marw a chwe achos o fabanod yn marw yn fuan wedi iddynt gael eu geni.