Staff i gael perchnogaeth cwmni teledu
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth un o gwmn茂au teledu annibynnol mwyaf Cymru yn bwriadu trosglwyddo'r berchnogaeth i'w staff.
Mae Dylan Huws, rheolwr gyfarwyddwr cwmni cynhyrchu Cwmni Da yng Nghaernarfon, yn bwriadu troi'r cwmni sydd 芒 throsiant o 拢5m y flwyddyn, yn 'Ymddiriedolaeth ym Mherchnogaeth y Gweithwyr'.
Yn 么l y cwmni dyma fyddai'r symudiad "cyntaf o'i fath yn y diwydiant darlledu yn y Deyrnas Unedig", ac y byddai gweithwyr yn gallu ennill bron i 拢4,000 yn ddi-dreth.
Mae'r cwmni, a gafodd ei sefydlu yn 1996, yn cyflogi 50 o staff yn eu canolfan yn Noc Fictoria yng Nghaernarfon, yn ogystal 芒 staff llawrydd.
Ymhlith cynyrchiadau'r cwmni mae Fferm Ffactor, Noson Lawen, Deian a Loli, Dim Byd, a Ffit Cymru.
Ers mis Rhagfyr diwethaf Mr Huws ydy unig berchennog y cwmni ar 么l i'w gyd-gyfarwyddwyr Neville Hughes ac Ifor ap Glyn benderfynu camu i lawr.
Bydd Mr Huws, 59 oed, yn gwerthu ei gyfranddaliadau i'r ymddiriedolaeth.
Dywedodd: "Roeddwn i'n ymwybodol ei bod hi bellach yn amser paratoi'r ffordd ar gyfer y genhedlaeth nesaf a'r cam cyffrous nesaf yn stori'r cwmni.
"Roeddwn hefyd eisiau sicrhau bod Cwmni Da yn aros yn nwylo'r staff sydd wedi cyfrannu cymaint at ei lwyddiant, a bydd yn sicrhau bod y cwmni'n parhau dan reolaeth Cymry lleol."
Bydd Mr Huws yn parhau fel rheolwr gyfarwyddwr am dair blynedd tra bydd y trosglwyddiad yn cael ei gwblhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2013
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2012