Storm Callum: Nifer o rybuddion llifogydd mewn grym
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion wedi cael eu cynghori i adael 29 o dai yn Ochr y Gamlas, Aberdulais wrth i lefelau Afon Nedd godi o ganlyniad i Storm Callum.
Mae'r glaw a gwyntoedd wedi achosi trafferthion yng Nghymru yn dilyn rhybuddion oren a melyn gan y Swyddfa Dywydd am ddydd Gwener.
Cafodd Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru eu galw i gynorthwyo gyda thr锚n aeth yn sownd mewn llifogydd ger Penrhiwceiber yng Nghwm Cynon toc wedi 15:30 brynhawn Gwener.
Cafodd 30 o deithwyr eu cludo oddi ar y tr锚n, ond ni fydd trenau'n rhedeg ar y lein tan o leiaf hanner dydd ddydd Sadwrn.
Hefyd mae dros 5,500 o bobl heb gyflenwad trydan - dros 3,000 o gwsmeriaid Western Power Distribution a 2,500 o gwsmeriaid Scottish Power.
Mae bellach nifer o (CNC) mewn grym ar hyd de-orllewin Cymru, a dros 25 rhybudd i fod yn barod ar hyd y wlad.
Mae'r rhybuddion melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm ledled y wlad, a'r rhybudd oren am law trwm eithriadol dros rannau helaeth o'r de.
Mae'r rhybudd oren am law trwm mewn grym o 06:00 ddydd Gwener tan 18:00 ddydd Sadwrn, ac mae'r rhybuddion melyn yn weithredol rhwng 05:00 ddydd Gwener a hanner nos ddydd Sadwrn.
Eisoes mae'r tywydd yn achosi oedi i deithwyr.
Am y diweddara' ar y ffyrdd ewch i .
Roedd disgwyl i 120mm i 160mm o law syrthio yn ne a gorllewin Cymru, gyda rhwng 50mm a 100mm o law ym mannau uchel agored y de a'r de orllewin cyn diwedd y dydd.
Roedd disgwyl gwyntoedd o hyd at 60mya, ond mae Capel Curig eisoes wedi cofnodi hyrddiad gwynt o 72mya fore Gwener.
Mae nifer o gartrefi ar hyd de Cymru wedi bod heb drydan bore Gwener, gyda Chastell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Abertawe ac Ynys M么n ymysg yr ardaloedd sydd wedi'i heffeithio.
Roedd rhaid i Ysgol Bryngwran ar Ynys M么n gau oherwydd diffyg cyflenwad trydan.
Mae Trenau Arriva Cymru eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn rhedeg amserlen gyfyngedig o ganlyniad i'r rhybuddion tywydd.
Bydd y llinellau rhwng Abertawe a Chaerfyrddin, Machynlleth a'r Drenewydd a Chyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiyniog yn cael eu cau am gyfnodau yn ystod y penwythnos, ac mae teithwyr yn cael eu hannog i wirio cyn teithio.
Mae Irish Ferries hefyd wedi canslo teithiau rhwng Caergybi a Dulyn ac mae teithiau Stena Line o Abergwaun i Rosslare hefyd wedi eu canslo.
Mae Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog gyrwyr i beidio gyrru drwy dd诺r llonydd.
Am y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion tywydd, llifogydd a theithio yn eich ardal chi, ewch i'r gwefannau yma:
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi bod eu timau ymateb i argyfwng yn paratoi ar gyfer llifogydd ac wedi rhybuddio bod yr amodau tywydd ar y m么r hefyd yn debygol o achosi llifogydd ger y glannau, gyda thonnau mawr, gwyntoedd cryfion ac ymchwydd y tonnau.
Dywedodd Gary White, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC, bod eu timau yn gweithio'n galed i "leihau risg i'r gymuned" ac annog pobl i gadw'n ddiogel.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Y diweddaraf
Mae Pont Brittania (A55) bellach wedi ailagor i'r ddau gyfeiriad i geir a faniau yn unig.
Mae'r A4059 rhwng Cwmbach ac Aberd芒r wedi cau i'r ddau gyfeiriad yn sgil llifogydd.
Mae'r A465 ar gau i'r ddau gyfeiriad oherwydd llifogydd rhwng cylchdro Rhigos a chylchdro Hirwaun ac yn annhebygol o ailagor tan o leiaf fore Sadwrn.
Mae'r A4215 ym Mhowys wedi cau i'r ddau gyfeiriad rhwng Defynnog a Libanus yn sgil llifogydd.
Mae yna dagfeydd ar ffordd Caergybi, A5 sydd wedi cau i'r ddau gyfeiriad ar 么l i goeden ddisgyn ar y heol.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi derbyn galwadau niferus am dd诺r ar wyneb y ffordd a choed sydd wedi disgyn.
Mae Pont Hafren A48 ar gau i gyfeiriad y dwyrain oherwydd y gwyntoedd cryf.
Mae 160 o gartrefi heb drydan yn ardal Castell-nedd.
Dros 180 o gartrefi yng Nghastell Newydd Emlyn heb drydan.