All technoleg newydd fygwth iaith?
- Cyhoeddwyd
Yn ddiweddar mae cwmni Mozilla, sydd yn gyfrifol am borwr Firefox, wedi dechrau ymgyrch i i geisio helpu dysgu peiriannau sut mae pobl go-iawn yn siarad.
Mae hyn yn cael ei weld yn ddatblygiad pwysig er mwyn cadarnhau lle'r Gymraeg yn ein bywydau yn y dyfodol, ond gan ystyried pob dim mae'r Gymraeg wedi llwyddo i orchfygu yn y gorffennol, faint o fygythiad yw newid mewn technoleg i iaith?
Mae Dr. Jonathan Morris yn ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac wedi astudio'r ffordd mae pobl yn defnyddio iaith yn ymarferol:
"Pan ddatblygodd y dechnoleg i anfon negeseuon testun, cododd rhai pobl bryderon am yr effaith bosibl ar orgraff (sillafu) a llythrennedd yn y Gymraeg a'r Saesneg.
"Y farn gyffredinol, o edrych ar y tystiolaeth sydd ar gael o wahanol ieithoedd, ydi bod newidiadau technolegol ddim wedi cael effaith enfawr ar sut 'da ni'n siarad neu ysgrifennu.
"Mae yna nifer o resymau pam nad ydi'r ffordd y mae pobl yn ysgrifennu negeseuon testun wedi cael effaith fawr.
"Mae siaradwyr yn ymwybodol o sefyllfaoedd gwahanol ac yn gallu amrywio eu lleferydd yn 么l y cyfrwng a'r cyd-destun. Rhaid ystyried i ba raddau mae ffurfiau yn cael ei dderbyn mewn sefyllfaoedd hefyd.
"Er enghraifft, byddai llawer o bobl yn dweud nad ydi '8nos' yn ddisgwyliedig mewn traethawd academaidd. A bod yn onest, byddwn i'n tybio y byddai llawer o bobl yn meddwl bod '8nos' mewn neges destun yn od erbyn hyn, beth bynnag.
"Mae ffasiynau a thechnoleg yn newid heb effaith fawr ar yr iaith dan sylw. Y dyddiau hyn, mae pobl yn fwy tueddol o ysgrifennu geiriau llawn, efallai, neu ddefnyddio lluniau, negeseuon fideo ac emojis.
"Yn ddiweddar, mae nifer wedi codi pryderon am effaith teclynau fel Alexa a Google Home ar y Gymraeg. Mae'r pryderon yn wahanol yn yr achos yma - dydyn nhw ddim yn poeni am effaith y dechnoleg ar sillafu neu ynganiadau, ond ar ddefnydd y Gymraeg.
"Mae'n anodd rhagweld sefyllfa ar hyn o bryd lle byddai teulu yn newid iaith oherwydd y dechnoleg ond, yn sicr, mae creu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac i'w normaleiddio mewn cyd-destunau gwahanol yn hollbwysig.
"Dyma pam mae gwaith Canolfan Bedwyr ym Mangor a Mozilla Common Voice, sy'n casglu enghreifftiau o leferydd y cyhoedd er mwyn datblygu technolegau llais, yn allweddol. "