Doctor Who, Dyspraxia a fi

Mae gan un o ffrindiau Doctor Who yn y gyfres newydd y cyflwr Dyspraxia. Ond beth yn union yw hwnnw?

Mae Osian Llewelyn Edwards yn wreiddiol o Aberllefenni, ger Corris, ond bellach yn gweithio fel actor a pherfformiwr yng Nghaerdydd. Mae'n gyfarwydd iawn 芒'r cyflwr, gan ei fod yn rhywbeth mae'n byw ag ef bob dydd. Rhannodd ei stori 芒 Cymru Fyw:

Ffynhonnell y llun, Osian Edwards

Be' 'dech chi'n ei wybod am Dyspraxia? Na, na - dim Dyslexia. Mae pawb 'di clywed am honno. DysPRAXia. O praxis (gweithred) a Dys- (gwael/anodd).

"O - fel Dyslexia symud, 'te, ie?", medde' chi. Mae hi bech yn fwy cymhleth na hynny, medde' fi...

A bod yn deg, efallai bydd dilynwyr Doctor Who 芒 syniad dipyn gwell o'r cyflwr wedi pennod cyntaf Jodie Whittaker fel yr Arglwyddes Amser byd-enwog - neu'n fwy penodol, trwy hanes un o'i chyd-deithwyr newydd, Ryan Sinclair (Tosin Cole).

Fframiwyd y bennod gyfan trwy anawsterau Ryan wrth geisio gyrru beic, a dangoswyd ei fod yn cael trafferth dringo ysgol mewn un olygfa.

Nid bachgen ysgol gynradd mohono, 'chwaith... ond dyn ifanc, 19 mlwydd oed. I mi, fel ffan o'r gyfres a dyn 29 mlwydd oed 芒'r un cyflwr, roedd o'n rhywbeth anhygoel i'w weld.

Disgrifiad o'r llun, Mae Ryan yn cael trafferth reidio beic yn y gyfres - ond nid yw hyn yn broblem i bawb sydd 芒'r cyflwr

'Lletchwith'

Un noson rieni, yn fy ieuenctid pell, dywedodd brifathrawes fy ysgol gynradd yn blwmp ac yn blaen wrth fy mam fy mod i'n hwligan diog fydde'n cyflawni dim yn ei oes. Araf wrth ysgrifennu, byth yn canolbwyntio ar fy ngwaith, methu 芒 rheoli fy ymateb i bethe', llais uchel o hyd... Ro'n i'n fachgen drwg, di-hid, a dyna'i diwedd hi.

Yn fuan wedi hynny - ar 么l i Mam edrych fewn i'r cyflwr (diolch, Mam!) a chael asesiad i mi a 'mrawd (sydd hefyd 芒'r cyflwr), daeth hi i'r amlwg bod Dyspraxia arna i.

Yn sydyn, dyma fy mam yn derbyn eglurhad pam fy mod i'n lletchwith wrth geisio cadw cydbwysedd, pam bod fy llawysgrifen yn fl锚r, pam 'mod i'n cael trafferth yn cau careiau fy esgidiau neu gwahaniaethu rhwng dde a chwith.

Ffynhonnell y llun, Osian Edwards

Disgrifiad o'r llun, Roedd athrawon yn meddwl fod Osian yn bod yn ddrwg a lletchwith yn fwriadol

'Anhrefn meddyliol'

Mae Dyspraxia yn effeithio pawb yn wahanol. Nid pawb 芒'r cyflwr fydd methu 芒 marchogaeth beic - ond bydd pob un yn cael trafferth i ddeall y cyd-drefniant angenrheidiol o goesau, breichiau a chydbwysedd sydd ynghlwm 芒'r dasg.

Weithiau, y sgiliau motor manwl sy'n cael eu heffeithio fwyaf - y weithred corfforol o ysgrifennu, neu o dynnu llun. Wrth gwrs, nid dyna'r unig feysydd i gael eu heffeithio: oherwydd mai anhrefn meddyliol ydi'r cyflwr, mae'n effeithio ar bethau fel fy nghof, sgiliau trefnu a fy ngallu i brosesu gwybodaeth.

Petaech yn rhoi rhestr o bethau ar lafar i mi, heb roi cyfle i mi eu nodi lawr rhywle, gobeithiwch i'r nefoedd nad oedd unrhywbeth angenrheidiol arno...

Mi geisiais i guddio fy Dyspraxia, i raddau, yn yr ysgol uwchradd. Do'n i ddim am ddefnyddio gair fel esgus - do'n i ddim angen rhywun i ddal fy llaw a chynnig mwy o amser mewn arholiadau i mi. Ond wrth i mi fynd yn h欧n, sylweddolais bod y cyflwr yma'n fwy na gair. Mae'n rhan annatod o fy hunaniaeth, ac wedi bod erioed.

Cefais ail-asesiad yn y brifysgol, i mi gael gweld yn union sut roedd Dyspraxia'n fy effeithio fel oedolyn. Roedd o'n agoriad llygad go iawn. Dwi'n cynnal dwy ddeialog bob tro dwi'n siarad hefo rhywun - y sgwrs wyneb-yn-wyneb, ac yna prosesu be' sy'n cael ei ddweud wrtha i.

Ffynhonnell y llun, Rhianwen Long

Disgrifiad o'r llun, Fel ffan mawr o'r gyfres, mae Osian wrth ei fodd bod 'Doctor Who' yn addysgu pobl am Dyspraxia

Datblygais synnwyr digrifwch wrth droi camddeall sefyllfa neu ddatganiad fewn i j么c. Oherwydd bod fy meddwl yn crwydro'n aml, dwi'n greadigol iawn - ac, oherwydd fy ngallu cerddorol a'm gallu efo geiriau, mae gen i waith cyson yn cyfieithu caneuon sioe gerdd.

Mae'r Dyspraxia Foundation yn cynnig gwybodaeth a chymorth i rieni ac i oedolion yngl欧n 芒'r cyflwr. Mae'r sefydliad yn dathlu 30 mlynedd eleni - ac wedi gwneud hynny drwy gynorthwyo cyfres Doctor Who i greu arwr newydd i godi ymwybyddiaeth o Dyspraxia dros bedwar ban byd!

Mae Ryan yn gymeriad sy'n byw efo'r cyflwr, fel fi, ac nid yn dioddef o'i herwydd. Nid cleifion ydym ni - does dim modd "gwella" Dyspraxia - ond pobl 芒 golwg wahanol ar y byd.

Hen bryd i bawb gael ei weld, medde' fi.

Hefyd o ddiddordeb...