Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y rhieni ifanc sy'n cael help Plant Mewn Angen
Mae'r arian sy'n cael ei godi ar ddiwrnod Plant Mewn Angen yn gallu cael effaith enfawr ar fywydau pobl ifanc yn ein cymdeithas - un o'r prosiectau sy'n cael ei ariannu gan y diwrnod yw prosiect sy'n helpu rhieni ifanc yng Nghaernarfon.
Mae Bethan Williams yn gweithio ar y prosiect sy'n cael ei weinyddu gan fudiad Gisda (Gr诺p Ieuenctid Sengl Digartref Arfon) ac yn egluro sut mae'r gwaith yn helpu pobl ifanc yn y gymuned a sut mae wedi newid bywyd un fam ifanc yn arbennig:
"Mae grant Plant Mewn Angen yn talu am sefydlu'r prosiect am dair blynedd ac rydyn ni newydd orffen y flwyddyn gyntaf.
"Mae tri prif outcome 'da ni'n chwilio amdano yn y bobl rydan ni'n gweithio gyda nhw. Y cyntaf yw magu perthnasau iach gyda phobl yn gyffredinol ond gyda'u plentyn hefyd. Yr ail yw gwella sgiliau byw annibynnol, a'r olaf yw dysgu i'r bobl ifanc ddisgwyl mwy o'u hunain.
"Mae rhain yn swnio'n amcanion digon syml ar yr wyneb ond i rai o'r bobl ifanc ni'n gweithio gyda nhw, maen nhw'n sgiliau sydd ddim yn codi'n naturiol o bosib oherwydd rhywbeth yn eu gorffennol neu resymau eraill.
Unigrwydd yn elyn
"Mae lot ohonyn nhw'n isolated, does ganddyn nhw ddim ffrindiau ac yn ofn mynd allan bron. So dwi jest yn ceisio cael nhw i joio fod yn rhieni.
"Mae lot o nhw'n meddwl 'O mae bywyd ar ben r诺an' ac felly dwi yna i drio newid eu views nhw o fod yn rhieni ifanc.
"Mae'r prosiect wedi'i anelu at rieni ifanc dan 18 oed, ac ar hyn o bryd gweithio gyda mamau sengl ydw i yn bennaf.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl dwi'n gweithio gyda nhw efo ddim llawer o gymorth adre. Lot o nhw'n ddigartref, ac yn rili vulnerable heb lawer o opportunities...'does neb wedi rhoi cyfle iddyn nhw, ac yn gyffredinol, mae pawb dwi'n gweithio efo nhw gyda rhyw fath o stori.
Stori 'G'
"Er engraifft, dwi'n gweithio efo merch o'r enw G [sydd ddim am roi ei henw llawn]. Roedd G yn dioddef o anxiety pan oedd hi'n 14- 15 oed. Roedd yn ffeindio hi'n anodd mynychu ysgol, yn enwedig dosbarthiadau llawn disgyblion eraill.
"Doedd yr athrawon ddim yn ei chredu ac yn meddwl mai chwara g锚m oedd hi er mwyn cael allan o'r dosbarthiadau, felly cafodd ei rhoi mewn stafell fach unig gyda chymhorthydd am dros flwyddyn.
"Ar 么l troi 16, credai G ma'i cyffuriau oedd yr ateb. Teimlodd rhieni G na allent gynnig y cymorth yr oedd eu merch angen felly symudodd i fyw mewn hostel.
"Wedi hynny wnaeth hi gyfarfod mwy o bobl ifanc newydd, a thrio cyffuriau newydd, hyd yn oed cryfach.
"Ynghanol hyn i gyd roedd G mewn perthynas gyda dyn llawer hynach na hi ac roedd yn ei rheoli hi, rheoli beth oedd hi'n wneud, lle'r oedd hi'n mynd, ac yn rheoli ei phres.
"Tra'r oedd yn aros yn yr hostel, darganfyddodd fod hi'n disgwyl babi.
Trobwynt
"Roedd hi mewn sioc ac yn amlwg ddim yn y lle cywir i gael babi. Ond mi wnaeth y penderfyniad o roi'r gorau i'r cyffuriau a rhoi ei hun yn gyntaf.
"Dyna pryd ddaeth G atom ni am help. Symudodd i fyw yn syth i un o dai Teulu GISDA gyda'i mab. Derbyniodd gymorth ar sut i ddelio gyda materion tai, budd-daliadau, a chymorth gyda gwario arian, datblygu sgiliau magu plant a sgiliau ymarferol.
"Mae G r诺an wrth ei bodd mynd allan i'r awyr iach gyda'i mab, i'r parc ac am dro. Mae hi'n rhoi'r bywyd gorau i'w mab bach hapus, ac heb gyffwrdd ag unrhyw gyffur ers dros flwyddyn a hanner.
"Yn ddiweddar, mae hi wedi cychwyn yn Coleg Menai i astudio Social Science ac mae ei mab yn mynd i'r feithrinfa lleol.
"Mae G'n berson gwahanol iawn i'r person ddaeth am gymorth chwe mis yn 么l, mae'n llawer mwy hyderus, mae'n hapus ac yn mwynhau bywyd a bod yn rhiant ifanc!
Un o lawer...
"Ond dim ond un o nifer o straeon tebyg yw stori G. Mae gynna'i bobl ifanc dros Wynedd i gyd ac yn aml mae jest yn fater o gael nhw allan o'r t欧.
"Ond dwi yna i roi cefnogaeth gyda materion tai, benefits a chynnig cyfleoedd addysg a hyfforddiant hefyd. Oherwydd bod y merched mor ifanc, mae cael cymorth r诺an yn creu effaith am byth.
"Mae rhai wedi dechrau gweithio neu, fel G, mynd i'r coleg a mae'n bwysig bod nhw wedi dysgu gwneud hyn r诺an.
Pwysigrwydd ymateb yn syth
"Efallai mewn rhyw flwyddyn ar 么l cael y babi fyddai pethau wedi gwaethygu ac efallai fyddan nhw'n teimlo bod eu hamser nhw ar ben, ac felly mae cynnig cymorth yn syth mor werthfawr, a dyna pam mae'r prosiect yma wedi bod mor llwyddiannus.
"Weithiau mae jest yn fater o fod yna iddyn nhw...i ddweud wrthyn nhw, wyt ti'n rhiant ifanc, ti'n gwneud yn ffab...dydi dy fywyd di ddim ar ben.
"Mae hyder llawer o'r pobl dwi'n gweithio gyda nhw wedi'i nocio a nocio eto, tan fod ganddyn nhw ddim ffydd yn eu hunain o gwbl. Felly mae'n bwysig fod y prosiect yma'n medru helpu i ailadeiladu'r hyder yna."
Mae Plant Mewn Angen yn digwydd ar ddydd Gwener Tachwedd 16 eleni.