大象传媒

Gwelliant ym mherfformiad unedau brys ar hyd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans argyfwng

Mae rhywfaint o welliant wedi bod ym mherfformiad rhai o unedau brys gwaethaf Cymru, yn 么l y ffigyrau diweddaraf.

Ym mis Awst dim ond 49.7% o gleifion dreuliodd llai na pedair awr yn uned brys Ysbyty Maelor Wrecsam cyn cael eu trin neu symud i ward - y perfformiad uned brys gwaethaf ar gofnod yng Nghymru.

Ond mae'r ffigyrau ar gyfer mis Medi yn awgrymu fod rhywfaint o welliant wedi bod, gyda'r ffigwr o gleifion oedd yn cael eu gweld o fewn pedair awr yn codi i 50.9%.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos gwelliant yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, gyda'r ffigwr yn codi o 52.9% i 56.0% yn yr un cyfnod.

Fis diwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n cynnig cyllideb ychwanegol i'r ddau ysbyty er mwyn ceisio gwella perfformiad cyn y gaeaf.

Er hynny, mae'n glir fod y ddwy uned yn dal i'w chael hi'n anodd i ddelio ag amseroedd aros wrth gymharu ag ysbytai eraill yng Nghymru.

Ystadegau eraill:

  • Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn parhau i wneud yn well na'r targed ar gyfer ymateb i alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol);

  • Mae amseroedd aros ar gyfer triniaethau wedi eu cynllunio wedi cynyddu rhwng mis Gorffennaf ac Awst - er iddyn nhw aros yn eithaf cyson ers 2016;

  • Mae rhywfaint o welliant wedi bod yn amseroedd aros ar gyfer cleifion canser.

Mae'r unedau brys gorau yn y wlad yn delio gyda bron i 90% o'u cleifion o fewn pedair awr, ond mae hynny dal i fod yn is na'r targed cenedlaethol o 95%.

Ar gyfartaledd, 80.3% o gleifion wnaeth dreulio llai na phedair awr mewn uned frys cyn cael eu trin neu symud i ward.

Roedd y ffigwr yma rywfaint yn well na'r perfformiad o 80% ym mis Awst, ond yn waeth na'r perfformiad ym mis Medi 2017 (84.5%) - er bod y niferoedd oedd yn ymweld ag unedau brys rywfaint yn llai o'i gymharu 芒'r un cyfnod y llynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y ffigyrau'n dangos eu bod nhw'n parhau i wneud cynnydd wrth geisio lleihau amseroedd amser ar gyfer gofal sydd wedi ei gynllunio.