大象传媒

Arwydd Pen y Fan: Rhannwch eich lluniau

  • Cyhoeddwyd
yr arwydd

Ydych chi'n un o'r miloedd o gerddwyr balch (neu blinedig) sydd wedi coff谩u cyrraedd copa Pen y Fan trwy dynnu ffoto wrth ymyl yr arwydd yma?

Mae'n garreg filltir eiconig sydd wedi ymddangos mewn hunluniau di-rif gan gerddwyr o bob cwr o'r byd ar hyd y blynyddoedd.

Ond, ddydd Sadwrn, 20 Hydref, mae'r arwydd sydd wedi croesawu pobl i gopa mynydd uchaf de Cymru ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ers tua 20 mlynedd yn cael ei werthu mewn ocsiwn arbennig.

I nodi'r achlysur mae Cymru Fyw yn gofyn i chi rhannu eich lluniau chi o gopa Pen y Fan gyda ni.

Gallwch anfon eich lluniau drwy ebostio cymrufyw@bbc.co.uk.

Gallwch hefyd eu hanfon drwy neu ar Twitter .

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwerthu'r arwydd er mwyn helpu i dalu am waith i adnewyddu llwybrau'r mynydd a mae disgwyl iddo godi rhwng 拢400 a 拢600.

Ond wrth gwrs, os ydych chi'n un o'r miloedd sydd wedi tynnu llun wrth yr arwydd ar 么l i chi lwyddo i gyrraedd y copa... efallai y byddwch chi'n fodlon talu mwy!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r olygfa ar y copa werth yr ymdrech