大象传媒

Mwy'n astudio'r Gernyweg wedi llwyddiant albwm Gwenno

  • Cyhoeddwyd
Gwenno Saunders
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gwenno Saunders wedi cael canmoliaeth mawr am ysgogi cymaint o sylw i'r Gernyweg

Mae nifer uwch nag erioed wedi sefyll arholiadau Cernyweg 2018 a hynny, yn 么l arholwyr, yn sgil llwyddiant y gantores o Gymru, Gwenno Saunders.

Dywedodd Bwrdd yr Iaith Gernyweg bod 77 o bobl wedi sefyll arholiad eleni - cynnydd o 15% o'i gymharu 芒'r flwyddyn flaenorol.

Mae'r cynnydd, medd yr ysgrifennydd arholiadau Tony Hak, yn rhannol oherwydd llwyddiant yr albwm Cernyweg, Le Kov.

Mae dros 1,200 o bobl wedi sefyll arholiadau ers iddyn nhw gael eu cyflwyno yn 1992.

Mae'r Gernyweg ar restr UNESCO, un o asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig, o ieithoedd sydd mewn perygl o ddiflannu ac mae'n cael ei chydnabod fel iaith leiafrifol gan Gyngor Ewrop.

Hunaniaeth

"Mae albwm Gwenno yn hwb ardderchog i'r iaith," meddai Mr Hak. "Mae cymaint o bobl yn ei gweld yn amlach o'u gwmpas ac maen nhw wedi dangos diddordeb."

Ychwanegodd bod pobl Cernyw hefyd yn dod yn fwy ymwybodol o'u hunaniaeth ac o le maen nhw'n dod.

"Mae yna ymwybyddiaeth gynyddol o'r iaith gan fusnesau sydd eisiau brandio Cernyweg," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd llawer yn anfodlon na chafodd Le Kov ei gynnwys ar restr fer Gwobr Mercury eleni oherwydd iddo dorri tir newydd gyda'r defnydd o'r Gernyweg

'Synnwyr o le' yw ystyr Le Kov - ail albwm Gwenno, a gafodd ei magu yn Gymraeg a Chernyweg.

Enillodd Wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn a'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2015 gyda'i halbwm unigol cyntaf, Y Dydd Olaf.

Dywedodd bod defnydd cynyddol o'r Gernyweg mewn bywyd o ddydd i ddydd yn "gyffrous".

Perchnogaeth

"Mae'n eitha' anhygoel bod yr iaith yn fyw," meddai. "Mae hynny'n dangos pa mor wydn ydy hi achos dydy hi ddim wedi cael llawer o gefnogaeth."

Dywedodd bod yr iaith yn ffordd berffaith o gyflwyno hanesion Cernyw "sydd 芒 hanes cyfoethog ac anferthol nad ydy llawer o bobol yn ymwybodol ohono".

"Mae'n cynnig perspectif arall... mae'n rhywbeth y mae poblogaeth Cernyw yn teimlo perchnogaeth drosto," meddai.

"Mae pobl yn dweud 'gadewch chi ni ei defnyddio mewn ffordd ddiddorol neu sy'n gwneud synnwyr i ni'."