大象传媒

Maint a chost pencadlys newydd cyngor yn hollti barn

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys newydd Cyngor Conwy

Bydd staff Cyngor Sir Conwy yn cychwyn symud i'w hadeilad newydd yng nghanol traf Bae Colwyn yn ystod yr wythnosau nesaf, ond mae beirniadaeth yn lleol am gost a maint yr adeilad gwerth 拢35m.

Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth ym mis Medi y bydd rhent pencadlys Cyngor Conwy yn costio 拢1.5m y flwyddyn i drethdalwyr am gyfnod o 40 mlynedd.

Daeth hi i'r amlwg hefyd mai'r tenant yn hytrach na'r perchennog fydd yn talu unrhyw gostau atgyweirio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Coed Pella yn adeilad swyddfa pedwar llawr

Bydd Coed Pella sy'n adeilad swyddfa pedwar llawr yn gartref i wasanaethau allweddol, gan gynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, Gwasanaethau Rheoleiddio a'r Gwasanaethau Datblygu Cymunedol.

Yn 么l llefarydd y bwriad yw cael gwasanaethau cyhoeddus mewn lleoliad canolog a'r gobaith yw moderneiddio a symleiddio gweithredoedd y cyngor yn ogystal 芒 chwarae rhan yn adfywio tref Bae Colwyn.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y cynghorydd Gareth Jones: "Doedd gwneud dim byd ddim yn opsiwn.

"Roedd yn rhaid i ni ddatrys nifer o faterion yn ymwneud 芒'n gofod swyddfa, gan gynnwys ein prydles yn dod i ben yn Ffordd Dinerth, Llandrillo-yn-Rhos ac 么l-groniad o waith cynnal a chadw yn y Swyddfeydd Dinesig ac adeiladau eraill.

"Pan ddechreuodd y prosiect hwn yn 2013, roedd gan y cyngor 25 o swyddfeydd; y nod yw symleiddio a chyfuno safleoedd y cyngor i dair prif swyddfa - sy'n arbed arian drwy gael gwared ag eiddo.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y fynedfa i'r pencadlys newydd

"Felly, pan gawn ni'r allweddi i Goed Pella, bydd yn cymryd lle nifer o adeiladau ar draws y sir sydd wedi dyddio - yn cynnig amgylchedd gwych i breswylwyr gael mynediad at ystod eang o wasanaethau, a phob un ohonynt dan yr un to."

Mae'r cyngor yn hyderus y bydd yr adeilad yn hwb economaidd i Fae Colwyn. Does dim ffreutur yn yr adeilad, er enghraifft, er mwyn annog swyddogion i brynu cinio yn lleol.

Ond mae rhai o'r trigolion yn anhapus.

Disgrifiad,

Yn 么l Hywel Roberts, dyn busnes lleol, mae'r adeilad yn anferthol a chostus

Dywedodd Hywel Roberts, g诺r busnes lleol, "bod yr adeilad yn anferthol ac yn sefyll allan dros yr adeiladau eraill ym Mae Colwyn".

Mae ef hefyd o'r farn y dylid fod wedi gwario yr arian ar drwsio y swyddfeydd sy'n bodoli yn barod yn hytrach na chael un adeilad.

Bydd y cyngor yn rhentu'r swyddfeydd ar brydles o 40 mlynedd, gyda'r opsiwn i'w prynu ar y diwedd.

Bydd Coed Pella yn agored i'r cyhoedd o ganol mis Tachwedd 2018.