Ysbrydion t欧 ni!

Mae prif weithredwr newydd yr Eisteddfod, Betsan Moses wedi ei argyhoeddi bod 'na ysbryd yn cadw cwmni iddi hi a'i g诺r yn eu cartref yng Nghaerdydd.

"Pan 'naethon symud i'r t欧 bron i 10 mlynedd yn 么l mi gafodd fy ng诺r deimlad yn syth nad oedd e'n d欧 cynnes," meddai.

"Fe fuodd e'n ddifrifol wael ar 么l cael triniaeth a aeth yn anghywir. Ers hynny mae'n llawer mwy sensitif i glywed ac i weld pobl o'r ochr draw. Felly o'n i'n ymwybodol efallai mai dyna oedd e'n s么n amdano, ond roedden ni'n meddwl y bydde y peth yn iawn a symudon ni fewn.

"Bron yn syth ar 么l symud i mewn fe roedd pethe anarferol yn digwydd. Bydde pethe'n symud o'n mlaen i, drws a oedd wedi ei gloi yn cael ei ddad-gloi o'n mlaen i, ffenestri double glazing yn agor o'n blaenau ni ac o'n i'n gweld yr allwedd yn troi.

"Dwi wedi gweld afalau ac ati'n cael eu taflu dros y stafell, gyda fi a fy ng诺r yn eistedd yno'n bwyta. Mi roedd yna wynt echrydus yn y t欧 hefyd, ac roedd e wastad yn oer, hyd yn oed yn ganol haf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, "...drws a oedd wedi ei gloi yn cael ei ddad-gloi o'm mlaen i..."

Bendithio'r t欧

"Mi drodd y sefyllfa yn un amhosib. Byddwn i'n codi yn y bore a bydde'r drws ffrynt ar agor, er ei fod wedi cael ei gloi a'i folltio a phopeth. Felly fe benderfynon ni bod rhaid i ni gael cymorth. Aethon ni at offeiriad a daeth e yma i fendithio'r t欧. Ond ddaeth dim o hynny.

"Wedyn fe gafon ni exorcist i mewn. Ro'dd hi'n dweud ei bod yn amlwg bod presenoldeb ysbryd hen ddyn yno, ac o'n i hyd yn oed yn gallu ei glywed e'n gwneud te ac ati. Ond ro'n i'n ymwybodol bod 'na bresenoldeb aflan yno hefyd, ac ar hwnnw o'n i eisiau cael gwared.

"Pan aethon ni lan lofft, wrth iddi fynd mewn i'r stafell wely ym mlaen y t欧, heb gair o gelwydd, mi gafodd hi ei thaflu o un ochr y stafell i'r llall. Ac yn llythrennol fe wnaeth hi weiddi 'pawb i gau lawr!' ac yn y blaen. Fe wnaeth hi gyfaddef nad oedd hi'n ddigon cryf i gael gwared ar y presenoldeb aflan 'ma.

"Ond roedd hi wedi llwyddo i gael gwared ar y rhan fwyaf o'r ysbrydion - naw i gyd! Eglurodd hi fod yna bedwar dyn yn y 'stafell gefn, ac mi roedd yna dri phlentyn. Ond dywedodd hi gan fod y g诺r yn gallu siarad 芒 nhw ei fod yn denu eneidiau coll.

"Nes ymlaen dywedodd ffrind wrtha i am wrach wen odd yn gallu cael gwared o ysbrydion. Wnes i siarad efo hi ar y ff么n. Mae'n swnio'n hollol bizarre, ond roedd hi'n dweud 'dwi yn dy gegin di' a 'o, ti 'di bod yn darllen y llyfr 'na'. Er nad oedd hi 'rioed 'di bod yn t欧 ni, roedd hi'n gallu dweud yn union beth oedd ynddo fe.

"Yn rhyfeddol ar y ff么n ro'n i'n clywed c诺n yn udo, ac fe ddywedodd hi 'pan glywi di'r c诺n, dyna'r diwedd'.

"'Dyn ni'n dal i gael ambell i brofiad rhyfedd, ond dwi ddim yn cael y rhai aflan fel o'r blaen.

"Mae'r drysau'n aros ar glo nawr er fy mod i'n dal i glywed yr hen ddyn yn gwneud te, ond dydi hynny ddim yn broblem. Ro'dd ei wraig e mewn cartref, felly aros amdani hi oedd e, doedd e ddim eisiau croesi."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Disgrifiad o'r llun, Oes yna ysbrydion?

'Mae pawb yn cael eu geni'n seicig'

Mae'r Prifardd Elwyn Edwards o'r Bala wedi bod yn ymdrin ag ysbrydion ers dros 30 mlynedd.

"Mae cael ysbrydion yn y t欧 yn eithaf cyffredin, yn enwedig mewn tai lle mae 'na blant, gan fod plant yn eu denu nhw mwy nag oedolion," meddai. "Mae pawb yn cael eu geni'n seicig.

"Mae 'na ambell i adeilad yn cadw ysbrydion am ganrifoedd os ddigwyddodd rhywbeth yn y t欧. Ond fel arfer y person sy'n denu nhw, gan fod y person yn seicig.

"Mae'r ddawn i gysylltu efo'r ysbrydion wedi datblygu gen i. Dwi'n gallu gweld ysbryd ar y ff么n pan mae rhywun yn ffonio yn dweud eu bod yn gallu gweld yr ysbryd yn y t欧. Mae'n bosib meithrin dawn fel yna drwy ymarfer.

"Roedd 'na Gymro yn byw ochra' Llundain a oedd yn cysylltu yn eithaf aml. Roedd o 'di prynu lluniau dyfrlliw, llawer ohonyn nhw, mawr a bach. Roedd o'n taeru bod y lluniau yn cael eu newid yn y nos. Roedd y lliwiau yn dyfnhau, adar yn mynd i mewn, coed yn cael eu hychwanegu, er bod 'na wydr dros y llun.

"Tra roedd o'n dweud yr hanes wrthai ro'n i'n cael llun yn fy mhen o'r arlunydd, Ffrancwr oedd o. O'n i'n gweld darlun ohono, beth oedd yn ei wisgo, y farf bychan ar ei 锚n, a'r enw Jacques.

"Rhyw bythefnos wedyn es i gyfarfod ysbrydegwyr ochrau Harlech, oedd 'na bedwar o'na ni yno ond doeddwn i ddim yn 'nabod y lleill. 'Naeth 'na un ohonyn nhw edrych arna i a dweud 'dalia mlaen efo'r cysylltiad Ffrengig 'na, mi rwyt ti ar y trywydd iawn' - roedd o'n medru darllen be' oedd yno i.

Disgrifiad o'r llun, Mae 'na rai yn taeru iddyn nhw weld ysbryd yng nghoridorau Castell Bodelwyddan

Ysbrydion gwarcheidiol

"Ges i sgwrs arall efo'r g诺r yn Llundain, a dd'wedodd bod y lluniau wedi eu prisio gan arwerthwr. Dywedodd nad oedd llawer o werth iddyn nhw, ond eu bod nhw i gyd yn arddull Jacques Martin.

"Wedi iddo edrych ar Jacques Martin yn y cylchgrawn, cafodd ei eni tua 1850 ac roedd o wedi byw yn Ffrainc am ryw 20 mlynedd, ac ro'n i'n gwybod yn iawn wedyn mai fo oedd o wedyn.

"Ges i alwad ff么n gan rywun yn dweud bod 'na ysbryd yn y t欧. Roedd eu merch ar fin mynd i'r coleg. Dd'wedes i wrthyn nhw am ffonio n么l petaen nhw yn dal i gael trafferth wedi i'r ferch adael. 'Naethon nhw ddim ffonio. Ro'n i'n gwybod mai'r ferch oedd yn seicig yn y t欧. Mae merched yn fwy sensitif o lawer na dynion wrth gysylltu ag ysbrydion.

"O'n i'n arfer mynd mewn i'r byd ysbrydol yn llawn a mynd mewn i drans trwm. Dwi 'di stopio gwneud hynny, achos o'n i'n mynd drwy farwolaeth yr ysbryd, r诺an fydda i'n mynd i drans ysgafn a dwi'n gweld y ddau fyd, y byd yma a'r byd nesaf.

"Mae rhywun yn gallu mynd i drans yn rhywle, yn y car neu rhywle. Dwi'n gallu ei reoli o, a does neb yn gallu dod drwodd imi heb fy mod i yn fodlon. Mae gennym ni hefyd ysbrydion gwarcheidiol, ac mi fydda i'n gofyn i rheiny am arweiniad o hyd. Mae ganddom ni i gyd bobl i edrych ar ein holau ni o'r byd hwnnw."

  • Cyhoeddwyd y darn yma gyntaf ym mis Awst 2016