大象传媒

拢20m yn rhagor i'r gwasanaeth iechyd ar gyfer y gaeaf

  • Cyhoeddwyd
nyrs a clafFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn ariannol gwerth 拢20m er mwyn helpu'r gwasanaeth iechyd yn ystod cyfnod prysur y gaeaf.

Bydd byrddau iechyd yn derbyn 拢16m er mwyn gallu darparu gofal yn agosach at adref.

Byddai hynny'n sicrhau bod mwy o le ar gael mewn ysbytai ar gyfer y rhai sydd ei angen, a bod pobl yn medru dychwelyd adref pan maen nhw'n barod i wneud.

Bydd y 拢4m ychwanegol yn mynd tuag at ymestyn oriau agor meddygfeydd gyda'r nos ac ar y penwythnos, a helpu pobl h欧n sydd ddim angen bod yn yr ysbyty i allu cael gofal yn y cartref.

'Gaeaf anodd'

Mae'r cyllid wedi cael ei gyhoeddi'n gynt na'r arfer eleni er mwyn helpu gwasanaethau iechyd i baratoi.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething mai'r gaeaf diwethaf oedd "un o'r anoddaf i'r GIG ei wynebu" wedi i dywydd garw a nifer uchel o achosion o'r ffliw roi "pwysau digyffelyb" ar y gwasanaeth.

Ym mis Ionawr fe wnaeth Mr Gething ymddiheuro i gleifion oedd wedi gweld llawdriniaethau cyffredin yn cael eu canslo, a chyhoeddi 拢10m yn ychwanegol i'r hynny oedd eisoes wedi'i glustnodi ar gyfer delio 芒 phwysau'r gaeaf.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadw dros 拢13m yn 么l oddi wrth dri bwrdd iechyd ym mis Mai ar 么l methu 芒 chyrraedd targedau ar gwtogi amseroedd aros cleifion.