大象传媒

Gwaith i 'stopio am wythnos' yn ffatri Ford Pen-y-bont

  • Cyhoeddwyd
Ford Pen-y-bontFfynhonnell y llun, PA

Mae undeb y GMB wedi cadarnhau fod gweithwyr yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont wedi cael eu hanfon adref am wythnos ar d芒l sylfaenol.

Bydd y llinell gynhyrchu sy'n gwneud injans y Jaguar AJ8 yn dod i stop am bum niwrnod o ddydd Llun 29 Hydref.

Mae wedi dod i'r amlwg fod llythyrau wedi cael eu hanfon i staff, sydd yn cynhyrchu injans ar gyfer Jaguar Land Rover, heb fod yr undeb wedi eu hysbysu.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y bydd yn galw am sicrwydd mai dim ond "dros dro" y mae'r gwaith yn stopio.

'Angen sicrwydd'

Er bod buddsoddiad yn injan newydd Ford wedi ei groesawu, mae cwestiynau o hyd ynghylch dyfodol hir dymor y ffatri.

Fydd cynllun Dragon ddim ond yn cynhyrchu chwarter nifer yr injans oedd yn arfer cael eu gwneud yno i Ford, a bydd y safle hefyd yn stopio cynhyrchu injans Jaguar yn 2020.

Mae Mr Jones, sydd 芒'i etholaeth ym Mhen-y-bont, wedi galw am gyfarfod ag uwch-reolwyr Ford.

"Yn yr amseroedd anodd hyn mae angen sicrwydd ar weithwyr Pen-y-bont er gwaethaf Brexit," meddai ar Twitter.

Gallai'r sector geir ar draws Cymru deimlo'r effaith os yw cwmni fel Jaguar Land Rover yn cwtogi ar eu gwaith cynhyrchu.

Yn y flwyddyn ddiwethaf mae Jaguar Land Rover, sydd dan berchnogaeth Gr诺p Tata, eisoes wedi lleihau eu gwaith cynhyrchu mewn safleoedd yn Lloegr a diswyddo 1,000 o weithwyr.

Mae'r cwmni wedi beio gostyngiad yn y galw mewn gwledydd fel China, yn ogystal 芒 chwymp yng ngwerthiant ceir disel.

Daw hynny wrth i nifer o gwmn茂au ceir rybuddio am effaith posib Brexit ar y diwydiant, gyda BMW yn dweud y byddan nhw'n rhoi stop ar y gwaith mewn un ffatri yn Rhydychen am fis pan fydd y DU yn gadael yr UE.

Yr wythnos diwethaf dywedodd pennaeth Ford yn Ewrop, Steven Armstrong wrth y 大象传媒 y byddai Brexit heb gytundeb yn "drychinebus" i ddiwydiant ym Mhrydain.