Adroddiad yn cydnabod mentrau arloesol GIG Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae amseroedd aros wedi gwella mewn "rhai meysydd" er gwaethaf pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), yn 么l dogfen sy'n cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth.
Bydd y Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru yn amlygu enghreifftiau blaengar o ddarparu gofal effeithiol a chyfeirio at feysydd lle gall y gwasanaeth wella yn y dyfodol.
Yn 么l prif weithredwr GIG Cymru, mae "annog arloesedd ac arferion da" yn bwysig, yn ogystal 芒 "chydnabod bod heriau yn wynebu'r gwasanaeth".
Mae'r ddogfen hefyd yn cyfeirio at gynlluniau ar y gweill, gan gynnwys Cymru Iachach a chynlluniau i wella a chryfhau'r gwasanaeth iechyd yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae'r datganiad yn rhoi sylw i rai o'r mentrau sy'n cyfrannu at ansawdd gofal mewn meysydd megis dementia, sepsis, clefyd y siwgr a chanser.
Dywedodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru ei fod yn "briodol ein bod, wrth ddathlu 70 mlwyddiant y GIG, yn gallu dangos ymrwymiad ein staff sy'n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau i ddarparu gofal da i bobl Cymru".
Meddai Dr Goodall: "Er ein bod yn cydnabod bod pwysau gwirioneddol ar adegau, mae'r amseroedd aros wedi gwella mewn rhai meysydd.
"Er hynny, mae'n bwysig ein bod, wrth annog arloesedd ac arferion da, yn cydnabod hefyd bod heriau yn wynebu'r gwasanaeth - a lle bo'r heriau hynny'n bodoli, rwy'n sicr fy marn bo rhaid gwneud gwelliannau."
Ychwanegodd Dr Goodall bod "buddsoddi mewn triniaethau newydd a gwneud gwaith ymchwil ym maes geneteg a thechnolegau digidol yn hollbwysig".
Cymru Iachach
Cafodd Cymru Iachach, cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ei lansio'n gynharach ym mis Hydref.
Mae'r Datganiad Ansawdd Blynyddol yn pwysleisio r么l y cynllun ar gyfer y dyfodol, gyda Dr Goodall yn datgan bod cyd-weithio rhwng adrannau "mor bwysig".
Ychwanegodd: "Erbyn y bydd y GIG yn 80 oed, rwy'n disgwyl y bydd cydweithio 芒 gwasanaethau arloesol a di-dor yn bethau arferol yng Nghymru yn hytrach nag yn eithriadau."
Yn ogystal, mae'r ddogfen yn cyfeirio at gryfhau'r ddarpariaeth i gleifion yn ystod y gaeaf - gyda'r bwriad o gynnig mwy o ofal yn y cartref i gleifion a gweithio i leihau'r amseroedd aros ar gyfer triniaethau wedi eu trefnu o flaen llaw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2017