Elusen: Undeb Rygbi Cymru'n ildio i bwysau
- Cyhoeddwyd
Bydd Undeb Rygbi Cymru a Scottish Rugby yn cyfrannu'n uniongyrchol i elusen wedi iddyn nhw gael eu beirniadu am beidio gwneud hynny'n wreiddiol.
Cwpan Doddie Weir fydd y tlws i'r t卯m buddugol pan fydd y ddwy wlad yn cwrdd yn Stadiwm Principality yng ng锚m gyntaf cyfres yr hydref ddydd Sadwrn - g锚m ar gyfer Sefydliad My Name'5 Doddie a sefydlwyd wedi i gyn glo Yr Alban gael diagnosis o glefyd motor neurone.
Dechreuodd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd pan gafodd y g锚m ei chyhoeddi ym mis Ionawr, ond cafodd yr undebau rygbi eu beirniadu pan ddaeth i'r amlwg na fydden nhw'n cyfrannu arian i'r elusen.
Nos Sul ar raglen Scrum V y 大象传媒, fe wnaeth y sylwebyddion Jonathan Davies, Andy Robinson a Peter Jackson annog y ddau undeb i gyfrannu'n uniongyrchol at yr elusen.
Bellach maen nhw wedi cadarnhau y bydd swm "chwe ffigwr" yn mynd yn uniongyrchol at yr elusen, ac y bydd hynny ochr yn ochr ag ymgyrch i godi arian y tu allan i'r stadiwm.
Dywedodd llefarydd ar ran URC: "Ry'n ni wedi gwrando ar y cefnogwyr, ac er mai ein nod gwreiddiol wrth gefnogi Sefydliad My Name'5 Doddie oedd codi ymwybyddiaeth o'r frwydr yn erbyn clefyd motor neurone, ry'n ni wedi penderfynu gwneud cyfraniad uniongyrchol.
"Y nod o'r cychwyn oedd dathlu un o fawrion rygbi'r byd, ac mae'n teimlo'n briodol felly ein bod yn adlewyrchu haelioni'r teulu rygbi gyda chyfraniad ein hunain."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2018