'Dwi ddim yn chef - jyst cael hwyl efo bwyd ydw i'
- Cyhoeddwyd
Ers iddo roi fideo o'i hun yn coginio ar ben bryn uwchben Caernarfon ar Facebook mae pethau "wedi mynd yn nyts" i Chris 'Foodgasm' Roberts.
Mae miloedd o bobl yn dilyn tudalen y Cofi 32 mlwydd oed sy'n caru bwyd a degau o filoedd wedi gwylio ei fideos ohono'n coginio yn ei steil ddihafal ei hun ar d芒n agored efo'i gi, Roxy.
O nos Wener Tachwedd 2, bydd doniau Chris i'w gweld yn ei gyfres deledu ei hun ar S4C, 'Bwyd Epic Chris', ac ychydig yn 么l, fuodd yn sgwrsio gyda Cymru Fyw am ei ethos coginio:
"Dwi ddim yn chef - jyst cael hwyl efo bwyd ydw i!" meddai Chris, sydd fel arfer yn gweithio fel swyddog cefnogi i bobl ag anableddau dysgu yng Nghaernarfon.
"Jyst dros dri mis a hannar yn 么l o'n i'n cychwyn page Facebook a ma' jyst 'di mynd yn nyts ers hynny!
"Nath o gychwyn jyst cyn Dolig pan wnaeth m锚t i fi (sy'n gweithio i gwmni teledu) ffonio yn gofyn os o'n i am wneud fideo bach - oedd o 'di gweld mod i wedi rhoi lot o luniau bwyd ar Facebook.
"So aethon ni i fyny i ben Twthill a gwneud pigs in blanket a sbrowts a hwnna oedd y fideo cynta'.
"Be oedd yn nyts i fi oedd faint o bobl 'nath 'neud y recipe ar ddiwrnod Dolig - o'n i'n blown away, o'n i methu coelio'r peth!"
Dysgu o gamgymeriadau
"Mae cwcio'n cadw fi allan o drwbl!" meddai Chris, sydd heb gael unrhyw hyfforddiant fel cogydd.
"Wedi dysgu fy hun ydw i - dyna'r ffordd ora'.
"Dros y blynyddoedd dwi 'di cael llwyth o failures a dwi wedi dysgu drwy neud mist锚cs - ti'n dysgu mwy drwy neud mist锚cs."
Roedd bwyd da yn rhan fawr o'i fagwraeth, meddai Chris.
Pan oedd ei ffrindiau yn gwylio cart诺ns roedd y Chris saith oed yn gwylio rhaglenni Keith Floyd, Two Fat Ladies a Rick Stein, sy'n dal yn arwyr iddo.
Roedd ei nain hefyd yn ddylanwad.
"Oedd pawb yn dre yn nabod Nain, Mrs Robaij, Post Bach, oedd hi'n gymeriad mawr yn dre," meddai.
"Roedd Nain yn old school, oedd hi'n briliant yn cwcio - un o'i favourites hi oedd beef stew, oedd yn briliant, ac roedd hi'n 'neud watercress soup a stinging nettles soup. Oedd hi'n mynd allan i hel dail poethion ac yn gallu eu hel nhw heb gael ei stingio.
"Oedd dad yn hela lot hefyd felly roedd 'na bob tro ffesants a cwningod yn hongian yn y garej - so o'n i'n byta bwyd fel'na pan o'n i'n ifanc a byth ofn trio petha' newydd," meddai.
Prynu'n lleol
Un o brif negeseuon Chris ydy prynwch gig a chynnyrch lleol a'i athroniaeth ydy bod rhaid i anifail gael bywyd da, free range, cyn iddo ei goginio a'i fwyta.
Gan fod ganddon ni "y cig gora' yn y byd, y lamb gora', y beef gorau", cyngor Chris ydy cefnogi eich cigydd lleol a phrynu ganddyn nhw.
"Mae pobl yn mynd i supermarkets a dydyn nhw ddim yn gwybod o lle mae'r cig yn dod.
"Mae lot o'n ffrindiau i'n cwcio lamb a Awstralia a New Zealand a cyw i芒r o Poland - ma'n stiwpud.
"Ma' pobl yn meddwl bod bwtsiars ychydig bach mwy drud ond ti'n talu am quality gwell ac yn y diwadd neith dy fwtsiar di edrych ar dy 么l a gei di d卯ls gynno fo.
"Os ti'n mynd at y bwtsiar bob wsos, jyst i siarad weithiau, dim rhaid i chdi brynu dim byd, maen nhw'n hapus i helpu."
Coginio efo t芒n ydy hoff ffordd Chris o goginio a chig sy'n boblogaidd ar Facebook, meddai.
Ond ychydig sy'n gwybod mai bwyd m么r ydy ei angerdd mwyaf.
Mae'n gynnyrch lleol nad ydyn ni'n gwneud hanner digon ohono meddai.
"'Dan ni'n byw ar y Fenai lle mae'r bwyd m么r gora' yn y byd ond dydi tri chwarter pobl Caernarfon ddim yn licio bwyd m么r, neu ma' ganddyn nhw ei ofn o neu ddim yn gwybod sut i'w wneud o.
"Mae'n bechod. Does 'na 'run seafood restaurant o gwmpas, mae o'n nyts achos mae gynnon ni'r petha' gorau yn y byd, fel oysters Menai a'r mussels gorau yn y byd!
"Mae bob dim yn cael ei ecsportio i Ffrainc a Sbaen a maen nhw'n chargio llwyth amdanyn nhw, lle 'da ni eisiau cael gwared ohonyn nhw i gyd!"
Dywed Chris ei fod wedi cael cynigion gan gwmn茂au teledu a bod 'na ambell beth ar y gweill.
"Dwi methu s么n amdanyn nhw rili ond mae o jyst yn nyts," meddai.
Mae'n edrych ymlaen ar hyn o bryd at 诺yl mae'n ei chynnal fis Awst o'r enw Chrisfest, lle bydd yn coginio ar d芒n agored i ryw 40 o bobl.
Gyrfa mewn golff
Mae hefyd wedi cael cynigion i weithio fel cogydd ond dydi o ddim am droi ei hobi yn yrfa - mae wedi dysgu'r wers honno o'i yrfa fel cystadleuydd golff proffesiynol.
Am saith mlynedd roedd Chris yn cystadlu ar lefel broffesiynol yn taro peli golff fel un o gystadleuwyr y Long Drivers European Tour.
Rhwng 18 a 25 mlwydd oed fe deithiodd drwy Ewrop a'r Unol Daleithiau yn cystadlu ar y lefel uchaf ac fe ddysgodd lawer am fwydydd a diwylliannau'r byd yn y cyfnod hwnnw.
"Ti'n cael dy sponsro i fynd rownd y byd yn hitio peli golff yn bell!" meddai.
"'Na'th hynna agor fy llygaid efo bwyd hefyd.
"Be' dwi'n licio ydy cwcio efo t芒n. Allan o bob culture bwyd, t芒n ydy bob dim.
"Tasan ni'n mynd n么l 100 mlynedd roedd pawb yn cwcio efo t芒n a 'da ni wedi colli'r sgil yna. 'Dan ni i gyd efo electric hobs, ond cwcio efo t芒n ydy'r peth gora'."
Mae'n edmygu'r cogydd Tomos Parry o Ynys M么n ond ei arwr mawr ydy cogydd byd-enwog sydd hefyd yn coginio'n syml ar d芒n agored, sef Francis Mallmann o Batagonia.
"Dwisho mynd i Batagonia," meddai Chris. "Gafodd Dad ganser pan oedd o tua 50 a 'nath o guro hynna a phenderfynu ei fod o isio gwneud be' oedd o isio, so mi aeth o i Batagonia tua pum gwaith i gyd, i sgota a cwcio efo gauchos.
"Dwi jyst a marw isho mynd a cwcio yno efo t芒n, asado-style."
Mae Chris yn feirniadol iawn o gogyddion teledu sy'n cael t卯m o gogyddion eraill i'w helpu oddi ar y camera, meddai.
"Ti'n cael rhaglenni lle maen nhw'n ffilmio fo i gyd mewn diwrnod neu ddau a ma nhw'n cael chefs eraill i 'neud y bwyd - dwi ddim yn licio hynna, dwi'n licio pethau ti methu eu cuddio, ac roedd Keith Floyd yn neud o'n well na neb.
"Bwyd go iawn, bwyd syml, secsi - ti methu guro fo!"