大象传媒

Arweinwyr yn pwyso ar Carwyn Jones i gadw'i air

  • Cyhoeddwyd
carwyn jones

Mae arweinwyr cynghorau Llafur yng Nghymru yn dweud y byddan nhw'n rhoi pwysau ar y Prif Weinidog gadw'i addewid i roi mwy o arian iddyn nhw.

Fe fyddan nhw'n cwrdd 芒 Carwyn Jones ddydd Iau er mwyn dadlau eu hachos dros gael cynnydd i'w cyllidebau.

Yn y Gyllideb ddydd Llun, fe ddywedodd Llywodraeth San Steffan y bydd 拢550m yn ychwanegol yn dod i Gymru dros y tair blynedd nesaf.

Mewn cyfweliad gyda 大象传媒 Cymru fis diwethaf, dywedodd Mr Jones mai llywodraeth leol fyddai "ar flaen y ciw" os fyddai unrhyw arian ychwanegol ar gael.

Cyn y trafodaethau ddydd Iau, dywedodd llefarydd wrth 大象传媒 Cymru fod cynghorau yn "flaenoriaeth allweddol".

Fe wnaeth un arweinydd cyngor godi pryderon y gallai Mr Jones dorri ei air.

Gofyn am 拢60m

Mae cynghorau wedi rhybuddio fod rhai gwasanaethau ar fin chwalu wedi iddyn nhw glywed am doriadau yn eu cyllidebau y flwyddyn nesaf.

Maen nhw hefyd wedi mynnu y dylai Treth Cyngor godi yn sylweddol ar draws Cymru er mwyn osgoi toriadau pellach i wasanaethau.

Mynnodd ffynonellau o fewn llywodraeth leol y dylai 拢60m fod ar gael i Lywodraeth Cymru ei basio ymlaen i gynghorau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni ar hyn o bryd yn ceisio deall effaith lawn y Gyllideb ar yr adnoddau sydd ar gael i Gymru.

"Rydym wedi dweud pe byddai arian ychwanegol ar gael, yna fe fyddai llywodraeth leol yn flaenoriaeth allweddol."