Cytundeb newydd i ddiogelu swyddi Ford ym Mhen-y-bont?
- Cyhoeddwyd
Fe allai trafodaethau rhwng cwmni cemegol Ineos a chwmni Ford i adeiladu car newydd arwain at ddiogelu swyddi ym Mhen-y-bont.
Mae'r 大象传媒 yn deall mai dyddiau cynnar yw hi o ran y trafodaethau rhwng y ddau gwmni.
Gobaith Ineos yw adeiladu cerbyd gyriant pedair olwyn, fyddai'n llenwi'r bwlch gafodd ei adael yn dilyn y penderfyniad i roi'r gorau i gynhyrchu'r Land Rover Defender yn 2016.
Yn 么l y Financial Times mae'r ddau gwmni yn cynnal trafodaethau am y posibilrwydd o adeiladu'r cerbyd newydd ym Mhen-y-bont.
Breuddwyd Jim Ratcliff, cadeirydd Ineos a'r dyn cyfoethocaf ym Mhrydain, yw'r car gyriant pedair olwyn newydd.
Ar hyn o bryd mae'r ffatri yn ne Cymru yn cyflenwi injans ar gyfer Jaguar Land Rover, ond fe fydd y cytundeb yna yn dod i ben yn 2020.
Mae hynny'n golygu dyfodol ansicr i tua 900 o'r 1,700 sy'n gweithio ym Mhen-y-bont.
Mae dyfodol hir dymor Ford yn ne Cymru hefyd yn ansicr, gan fod Ford wedi rhybuddio y gallai'r cwmni adolygu ei bolisi buddsoddi ym Mhrydain yn ddibynnol ar setliad Brexit.
Dyw Ineos heb wneud unrhyw sylw hyd yma, tra bod Ford yn dweud eu bod yn parhau i edrych am gyfleoedd newydd ar gyfer y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2017