大象传媒

Ergyd i 220 o staff Schaeffler wrth gau safle Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Schaeffler

Mae cwmni sy'n cyflenwi nwyddau diwydiannol a modurol yn Llanelli, gan gyflogi 220, yn dweud eu bod am gau eu ffatri yn y dref.

Cyhoeddodd Schaeffler eu bod am gau dau safle yn y DU - yn Llanelli a Plymouth.

Dywedodd y cwmni eu bod wedi dechrau ar gyfnod ymgynghori 45 diwrnod yngl欧n 芒'r broses o gau'r safle.

Y gred yw y gallai tua 500 o swyddi gael eu heffeithio dros y DU.

Ychwanegodd y cwmni bod "ansicrwydd" ynghylch Brexit yn un o'r ffactorau y tu 么l i'r penderfyniad.

'Ergyd i'r ardal'

Mewn datganiad dywedodd y cwmni: "Rydym yn disgwyl y bydd y cynlluniau ad-drefnu yn cymryd hyd at ddwy flynedd i'w cwblhau.

"Fe wnaeth y cwmni gymryd i ystyriaeth mai dim ond 15% o'r nwyddau sy'n cael eu cynhyrchu yn y DU sy'n aros yn y wlad, tra bod y mwyafrif helaeth yn cael eu hallforio i gyfandir Ewrop.

"Roedd yr ansicrwydd ynghylch Brexit yn un ffactor ymhlith eraill wrth i ni gynnal ymchwiliad o'r farchnad yn y DU."

Mewn sylwadau pellach ddydd Mawrth fodd bynnag, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Schaeffler yn y DU, Greig Littlefair bod "Brexit yn ystyriaeth fechan o fewn y darlun mawr".

Dywedodd nad oedd yr ansicrwydd ynghylch Brexit o gymorth, ac y byddai'n well gan y cwmni weld ffiniau yn aros ar agor i fasnach.

Ond ychwanegodd fod galw am y nwyddau oedd yn cael eu cynhyrchu yn Llanelli hefyd yn gostwng, oherwydd newidiadau yn y farchnad geir.

Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, Nia Griffith fod y newyddion yn sioc a bod y cwmni wedi bod yn gyflogwr pwysig yn yr ardal am nifer o flynyddoedd.

"Yn amlwg rwy'n poeni am effaith hwn ar deuluoedd ac effaith posib ar fusnesau eraill yn lleol.

"Mae bwysig ein bod ni'n cynnig cymorth i'r cwmni i geisio eu perswadio i ailfeddwl."

Dywedodd hefyd fod y penderfyniad yn dangos yr "angen am gynllun Brexit mwy eglur er mwyn rhoi sicrwydd i gwmn茂au a gweithwyr a rhoi terfyn ar y cyfnod o ansicrwydd".

'Amser anodd' i bobl Llanelli

Dywedodd cynghorydd sir Bynea, Deryk Cundy, fod y newyddion yn gwbl annisgwyl ac yn ergyd i'r ardal.

"Mae hyn yn nifer fawr o swyddi ac yn swyddi a chyflogau da," meddai'r cynghorydd, sy'n ddirprwy arweinydd y gr诺p Llafur ar Gyngor Sir G芒r.

"Bydd hwn yn ergyd i Fynea, Llanelli, Sir Gaerfyrddin ac ardal ehangach. Nes i ond clywed y bore 'ma, mae'n syndod.

"Rydym wedi siarad 芒'n cynrychiolwyr yn y Cynulliad a San Steffan. Mae angen sefydlu tasglu i weld a allwn roi persw芒d ar y cwmni i ailfeddwl."

Efallai o ddiddordeb

Yn 么l David Darkin, cadeirydd siambr fasnach Llanelli, roedd y newyddion yn "drueni nid yn unig i'r gweithwyr a'u teuluoedd ond i'r holl gymuned".

"Bydd effaith ar fusnesau eraill sy'n masnachu i Schaeffler yn colli mas hefyd. Felly mae amser anodd o'n blaenau ni i bobl Llanelli."

"Mae beth ni wedi clywed o'r diwydiant wedi bod yn dda yn ddiweddar felly mae beth ni wedi clywed heddiw yn dipyn o sioc."

Cynllunio at y dyfodol

Dywedodd Juergen Ziegler, prif weithredwr Schaeffler yn Ewrop: "Mae'n amlwg nad Brexit yw'r unig ffactor allweddol o ran y farchnad yn y DU, ond mae'r angen i ni gynllunio ar gyfer posibiliadau cymhleth i'r dyfodol wedi golygu ei fod yn rhaid dod i benderfyniad yn gynt."

Bydd y gwaith cynhyrchu yn cael ei adleoli i'r Unol Daleithiau, China, De Corea a'r Almaen.

Mae gan Schaeffler hefyd safle yn Sheffield fydd ddim yn cael ei effeithio gan y newidiadau.

Mewn ymateb dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fod y newyddion yn "tanlinellu pwysigrwydd cael cytundeb rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd" yn y trafodaethau Brexit.

"Mi fyddwn ni'n cydweithio gyda'r cwmni... [a] Llywodraeth Cymru i gael gweld beth yn gymwys yw'r problemau maen nhw'n gweld," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Schaeffler wedi dweud bod eu penderfyniad wedi dod yn rhannol oherwydd Brexit

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod gan Lywodraeth y DU "gwestiynau difrifol i'w hateb" o ganlyniad i'r ansicrwydd roedd Brexit wedi ei achosi.

"Mae angen i fusnesau gael eglurder a hyder na fydd y cytundeb sy'n cael ei tharo yn un fydd yn effeithio'n negyddol arnyn nhw," meddai.

Mynnodd Plaid Cymru fod "polis茂au dinistriol" Llafur a'r Ceidwadwyr ar Brexit ar fai, gan ddweud y byddai rhagor o fusnesau yng Nghymru'n cael eu niweidio oni bai bod y DU yn aros yn y farchnad sengl a'r Undeb Tollau.

"Dyma fydd realiti economaidd Brexit. Mae angen sicrwydd ar y trafodaethau cyn mis Mawrth," meddai Helen Mary Jones AC.