Tlodi hylendid: 'Ddim yn teimlo fel fi fy hun'
- Cyhoeddwyd
"Mi ddechreuodd y cwbl oherwydd fy mod i wedi rhedeg allan o foundation a 'dwi'n gwybod bod hynny yn swnio'n hurt i rai pobl, ond i mi, mae'n o'n bwysig.
"I ferched eraill, efallai mai dim ond colur ydy foundation, ond i mi mae o fel mwgwd. Mae'n gallu cuddio fy mhroblemau."
I Shannon Chittenden, 18 o Gaerdydd, nid dim ond rhywbeth sy'n codi cywilydd arni ydy tlodi hylendid personol - mae'n gallu effeithio ar ei hiechyd meddwl.
Ond mae pobl fel hi nawr yn dechrau cael cynnig cymorth gan grwpiau fel Beauty Banks - criw o bobl sy'n dosbarthu miloedd o nwyddau hylendid i'r rheiny mewn tlodi hylendid.
'Teimlo mor isel'
"Mae colur a phethau ymolchi yn gallu codi gw锚n ar wyneb rhywun," meddai Shannon.
"Pan doedd gen i ddim, doeddwn i ddim yn teimlo fel fi fy hun. Roeddwn i'n teimlo fel na allwn i gyflwyno fy hun i'r byd, doeddwn i methu dangos i'r byd 'mod i'n gryf oherwydd 'mod i'n teimlo mor isel am y ffordd roeddwn i'n edrych.
"Cafodd effaith fawr arna'i... roedd o'n teimlo bron fel bod 'na neb i fy helpu i."
Mae gwaith ymchwil gan Ymddiriedolaeth Trussell, sydd 芒 rhwydwaith o fanciau bwyd ar draws y DU, yn awgrymu bod mwy na hanner y bobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau methu fforddio cynnyrch ymolchi.
Roedd Shannon, sydd ddim yn gallu gweithio ar hyn o bryd oherwydd ei phroblemau iechyd meddwl, yn ddigartref am gyfnod tra roedd hi yn y coleg.
Mae hi'n derbyn 拢230 pob mis mewn taliadau Credyd Cynhwysol, sy'n talu am rentu lle yn yr hostel lle mae hi'n byw nawr.
Mae ei chostau bwyd yn golygu ei bod hi'n aml yn gorfod penderfynu rhwng bwyd a phethau ymolchi, nwyddau mislif a cholur.
"Mae padiau yn costio mwy na 拢1, os ydych chi eisiau rhai arbennig sy'n fwy cyfforddus, mae'n rhaid i chi dalu 拢2 neu 拢3 am baced o 12 pad," meddai Shannon.
"Gall 拢3 fynd yn bell. I mi, mae hynny'n fara, menyn a llaeth. Gall hynny bara wythnos tra bod paced o badiau dim ond yn ddigon am ddeuddydd."
'Ddim yn teimlo fel fi fy hun'
Yn 么l Shannon, mae'r ffaith nad yw hi'n gallu prynu rhai o'r pethau yma wedi arwain iddi deimlo'n unig ac isel.
"Pan nad ydw i'n teimlo ar fy ngorau, dydw i ddim eisiau gweld pobl... a dwi'n ofnadwy o isel," meddai.
"Dydw i ddim yn teimlo fel fi fy hun. 'Dwi wir yn teimlo bod hynny oherwydd bod gen i ddim foundation y diwrnod hwnnw, neu fod gen i ddim pad i wisgo ac mae'n rhaid i mi ddefnyddio papur t欧 bach.
"Mae'n neud i ti deimlo'n isel iawn."
Ar gyfer pobl fel Shannon mae Beauty Banks wedi'i sefydlu, a hynny gan y newyddiadurwr o Gymru, Sali Hughes, a'r cyfarwyddwr harddwch, Jo Hones.
Mae'r sefydliad yn casglu cynnyrch ymolchi a nwyddau harddwch gan gwmn茂au mawr a'r cyhoedd i baratoi pecynnau gofal i yrru at fanciau bwyd ac elusennau ar draws Prydain.
Mae Ms Hughes, sydd wedi siarad am ei phrofiad hi o ddigartrefedd yn y gorffennol, yn dweud bod gwallt, croen a dannedd gl芒n yn "hawl, nid yn fraint" a bod hylendid personol yn "hollbwysig i'n hurddas, hunan-barch, a'n iechyd meddwl".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2017