大象传媒

Ymgyrch ysgol ar Ynys M么n yn sicrhau croesfan newydd

  • Cyhoeddwyd
Croesfan RhosybolFfynhonnell y llun, Ysgol Rhosybol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgyblion Ysgol Gymunedol Rhosybol wedi bod yn ymgyrchu i gael croesfan ers tair blynedd

Wedi tair blynedd o ymgyrchu gan ddisgyblion ysgol gynradd ar Ynys M么n mae prosiect o adeiladu croesfan newydd o flaen yr ysgol wedi'i wireddu.

Mae disgyblion Ysgol Gymunedol Rhosybol bellach yn teimlo'n fwy diogel wrth groesi'r ffordd i'r ysgol, ar 么l i Gyngor Cymuned y pentref dalu i Gyngor M么n i adeiladu'r groesfan.

Fe gafodd cais gwreiddiol yr ysgol i Gyngor M么n ei wrthod, ond roedd y disgyblion yn "benderfynol" o lwyddo yn eu hymgyrch yn 么l y pennaeth Gwenan Roberts.

Mae Cyngor M么n wedi ymateb drwy "longyfarch y gymuned leol am ei flaengaredd wrth ddarganfod yr adnoddau i gwblhau'r gwaith."

Dywedodd Gwenan Roberts: "Fe gafon ni un achos ble roedd un disgybl yn lwcus i beidio cael ei daro gan lori, roedd yn rhaid i ni weithredu wedyn i gael croesfan ddiogel."

Disgrifiad,

Gwenan Roberts yw pennaeth Ysgol Gymunedol Rhosybol

Ers sawl blwyddyn does dim person 'lolipop' yn cynorthwyo'r disgyblion i groesi'r ffordd y tu allan i Ysgol Rhosybol.

Fe aeth y disgyblion ati i ysgrifennu llythyrau at y cyngor sir, yr heddlu ac at AC Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth yn gofyn am gymorth.

Fe gafodd y disgyblion eu siomi ar 么l i Gyngor M么n wrthod y cais, gan nad oedd "lefel defnydd y tu allan i'r ysgol yn ddigonol er mwyn cwrdd 芒 chanllawiau cenedlaethol ar gyfer derbyn grant."

Daeth y Cyngor Cymuned i'r adwy gyda chyfraniad hyd at 拢10,000 i ariannu'r prosiect.

'Costio 拢10,000'

Dywedodd Gwilym Morus sy'n aelod o Gyngor Cymuned Rhosybol wrth Cymru Fyw: "Fe wnaeth y cyngor cymuned gytuno i ariannu'r prosiect, gyda Cyngor M么n yn gwneud y gwaith.

"Mae'r gost yn tua 拢10,000. Mae'n beryg yma yn ystod y prynhawniau. Mae'r ysgol yn agos iawn at galonnau pawb ar y cyngor cymuned. Gobeithio bydd y groesfan yma r诺an yn atgoffa rhai sy'n goryrru fod yna blant yn croesi yma," meddai.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Rhosybol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd rhai o ddisgyblion Rhosybol yn falch o gael croesi'r ffordd gan ddefndyddio'r groesfan ar ddiwedd y dydd.

Ers i oleuadau'r groesfan gael eu rhoi ymlaen mae rhai o rieni'r disgyblion yn hynod o falch ac yn dawelach eu meddwl nawr ei bod hi'n fwy diogel i'w plant nhw gyrraedd a gadael yr ysgol.

"Fel mam'dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn fod y groesfan yma oherwydd ma' hi'n l么n brysur ofnadwy, ac mae'n golygu fod y plant r诺an yn gallu croesi'r l么n yn ddiogel," meddai un o'r rhieni, Rhian Sharp.

'Llongyfarch y gymuned'

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys M么n: "Yn gyffredinol, rydym yn croesawu unrhyw fesurau er mwyn gwella diogelwch y ffyrdd a darpariaeth ar gyfer cerddwyr.

"Yn dilyn asesiad, daethpwyd i'r casgliad na fyddai'r lefel defnydd y tu allan i'r ysgol yn ddigonol er mwyn cwrdd 芒 chanllawiau cenedlaethol ar gyfer derbyn grant."

"Yn anffodus, yn sgil yr argyfwng ariannol sydd yn wynebu llywodraeth leol, nid oes cyllideb gan ein Gwasanaeth Priffyrdd ar gyfer y math yma o welliannau ers rhai blynyddoedd bellach ac ni fyddai cais gan y Cyngor am gyllid grant allanol yn debygol o lwyddo."

"Rydym felly yn llongyfarch y gymuned leol am ei flaengaredd wrth ddarganfod yr adnoddau i gwblhau'r gwaith ac yn falch o fod wedi gallu helpu drwy ddatblygu dyluniad addas ar gyfer y groesfan yma."